Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei hysbysu na bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod eu strategaeth ddadleuol o gau 30 ysgol pentrefol Cymraeg, wedi’r cyfan, ddydd Mercher nesaf.
Yn dilyn penderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin – yn eu cyfarfod heddiw i dderbyn argymhelliad y Cyfarwyddwr Addysg i gymeradwyo strategaeth a fydd yn arwain at gau dros ddau ddwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am ymyrraeth gan Weinidog Addysg y Cynulliad – Jane Davidson – o flaen y cyfarfod o’r Cyngor llawn yr wythnos nesaf.
Fe orymdeithiodd tua 100 o bobol drwy'r glaw yn Arberth ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn Radio Sir Gaerfyrddin a chyfanswm y ddarpariaeth Gymraeg ar yr orsaf.
Carden Felen - dyna oedd rhybudd Ofcom i Radio Carmarthenshire ddoe (Mercher 20 Hydref). Ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, mi gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar Radio Carmarthenshire. Enillwyd dadl Cymdeithas yr Iaith felly, a chydnabyddwyd nad yw Radio Carmarthenshire yn dal at eu hochor nhw o'r fargen ble mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn.
Heddiw, gwnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin sioe fawr o gyhoeddi eu strategaeth nhw ar gyfer addysg yn y sir. A’u strategaeth nhw oedd hi – wedi’i chreu yn gyfangwbl gan swyddgion yn Neuadd y Sir.
Dros nos y mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi codi baner fawr ar sgaffaldau’n wynebu Neuadd y Sir Caerfyrddin o flaen cyfarfod o’r Cyngor llawn heddiw.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cylchlythyru pob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin gan ofyn iddynt fynegi i OFCOM eu pryder fod Radio Sir Gâr wedi cefnu ar eu haddewid i gynnal gwasanaeth dwyieithog.
Disgwylir neuadd orlawn yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin pan fydd cannoedd o bobl ifanc yn dod i wrando ar fandiau Cymraeg yn chwarae gig byw i brotestio yn erbyn gwaharddiad Radio Carmarthenshire ar gerddoriaeth leol a Chymraeg.
Mae'r 11 aelod o Gymdeithas yr Iaith a gafodd eu harestio ddoe yn dilyn y brotest yn stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth (Sir Benfro !) wedi cael eu rhyddhau - wedi treulio 12 awr mewn celloedd unigol - ar fechniaeth i ddychwelyd at Swyddfeydd Heddlu ym mi Medi.
Fe feddianodd tua 20 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth y bore yma, a thorri ar draws darllediad byw. Roedd modd clywed gwaeddiadau o 'Ble Mae'r Gymraeg?' yn fyw ar y Radio. Roedd yn rhaid i Radio Carmarthenshire atal y darllediad am bron i funud ac nid oedd modd iddynt ddarlledu bwletin newyddion 12pm.