Maen nhw’n chwerthin am ben canllawiau’r Cynulliad

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Yn dilyn penderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin – yn eu cyfarfod heddiw i dderbyn argymhelliad y Cyfarwyddwr Addysg i gymeradwyo strategaeth a fydd yn arwain at gau dros ddau ddwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am ymyrraeth gan Weinidog Addysg y Cynulliad – Jane Davidson – o flaen y cyfarfod o’r Cyngor llawn yr wythnos nesaf.

YN OL I WEFAN www.cadwneinhysgolion.comBydd y Cyngor llawn yn cyfarfod Ddydd Mercher 10ed Tachwedd i gadarnhau penderfyniad y Bwrdd Gweithredol, ac y mae’r Gymdeithas wedi danfon gair at Jane Davidson yn gofyn iddi egluro i’r Cyngor cyn y dyddiad hwnnw na byddai gweithredu’r strategaeth yn dderbyniol ganddi gan ei bod yn amlwg yn groes i ganllawiau’r Cynulliad ar gau ysgolion ar nifer o bwyntiau pendodol oherwydd nad yw’ r swyddogion –· Wedi ystyried unrhyw bosibiliadau eraill fel ffedereiddio ysgolion. Yr un yw’r ateb ym mhob ardal – sef cau ysgolion a chreu ysgol ganolog h.y. yr ateb mwyaf cyfleus yn weinyddol. Mae hyn yn groes i’r canllaw fod yn rhaid archwilio pob posibiliad arall.· Nid oes unrhyw ymdrech bellach i werthuso’r effaith ar gymunedau lleol, eto’n groes i’r cyfarwyddyd yn y canllawiau· Nid yw’r strategaeth yn rhoi addysg yn gyntaf gan nad yw’n trafod unrhyw ddadleuon addysgol, ond yn gyfyngedig i gyflwr adeiladau.· Ni bu unrhyw ymgynghori cyn cymeradwyo’r strategaeth sylfaenol.Yn y materion hyn oll, mae’r strategaeth yn groes i gyfarwyddion y Cynulliad.ProtestMae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cynnal protest tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 9am ar fore cyfarfod y Cyngor llawn – sef Mercher wythnos nesaf – Tachwedd 10ed. Bydd gwahoddiadau’n mynd at rieni a phawb sy’n pryderu am ddyfodol y cymunedau hyn.Penderfynu’n gyntaf - Ymgynghori wedyn 31/10/04Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin – yn eu cyfarfod bore fory (Llun 1af Tach) i wrthod argymhelliad y Cyfarwyddwr Addysg i gymeradwyo strategaeth a fydd yn arwain at gau dros ddau ddwsin o ysgolion pentrefol Cymraeg.Mae’r Gymdeithas yn gofyn yn hytrach i aelodau’r Bwrdd gyfarwyddo’r Swyddogion i weithredu ymarferiad dilys am flwyddyn o ymgynghori’n eang yn y sir am ddyfodol y drefn addysg, ac i ddychwelyd gyda strategaeth sy’n seiliedig ar bartneriaeth gyda rhieni, athrawon a chymunedau.Mewn e-bost at y Cyng Mary Thomas (yr Aelod sydd â chyfrifoldeb dros addysg), dywed llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis, mai ymarferiad swyddfa yw argymhellion y swyddogion.“Maent wedi penderfynu tu fewn i waliau Neuadd y Sir pa gymunedau pentrefol sydd a fyw, a pha rai sydd i farw. Faint o funudau fyddwch chi’n eu treulio fory’n ystyried tinged y 26 cymuned bentrefol Gymraeg a ddedfrydwyd i farwolaeth araf fel pentrefi henoed wedi tynnu eu hysgolion ?”Dywed Mr Ffransis mai strategaeth y swyddogion yw “Penderfynu’n gyntaf – Ymgynghori wedyn”. Maent yn amlwg yn gobeithio cael cadarnhad buan i’w hargymhellion tra’n cadw’r manylion o ba ysgolion sydd i’w cau mor gyfrinachol â phosibl. Rhydd yr enghreifftiau canlynol :• Nid oes ond crynodeb byr o flaen hyd yn oed aelodau’r Bwrdd Gweithredol yn eu cyfarfod fory. Ar yr agenda mae nodyn “Detailed explanatory report also attached : NO”.• Mae’r ddogfen fanwl sy’n enwi’r ysgolion wedi’i chladdu’n ddwfn ar wefan y Cyngor.• Mae’r Swyddogion yn cydnabod nad ydynt wedi trafod eto gyda Chynghorau Cymuned, ond yn bwriadu trafod ar ôl pasio’r strategaeth. Nid yw llywodraethwyr wedi gweld y ddogfen fanwl heblaw am y rheiny sydd wedi ffonio Neuadd y Sir i fynnu copi.• Cyflwynwyd y manylion fel fait-accompli i brifathrawon.Dywed Mr Ffransis mai “dirmygu prosesau democrataidd ac ymgynghorol” yw cyflwyno’r strategaeth fel ffaith mewn cyflwyniad i’r wasg ac wedyn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor heb drafod manylion y strategaeth gydag unrhyw un.Mae’r Gymdeithas yn mynnu fod yr holl strategaeth o safon isel o safbwynt addysgol hefyd. Dywedir fod y swyddogion wedi gweithredu’n fwy fel estate-agents nac fel addysgwyr gan bwyso a mesur yn unig safon a chost gwelliannau adeilad heb ystyried yr addysg dda a gynigir yn yr ysgolion presennol. Mae’r strategaeth hefyd yn gwbl groes i ganllawiau’r Cynulliad oherwydd nad yw’ r swyddogion –• Wedi ystyried unrhyw bosibiliadau eraill fel ffedereiddio ysgolion. Yr un yw’r ateb ym mhob ardal – sef cau ysgolion a chreu ysgol ganolog h.y. yr ateb mwyaf cyfleus yn weinyddol.• Nid oes unrhyw ymdrech bellach i werthuso’r effaith ar gymunedau lleol.• Nid yw’r strategaeth yn rhoi addysg yn gyntaf gan nad yw’n trafod unrhyw ddadleuon addysgol.Yn y materion hyn oll, mae’r strategaeth yn groes i gyfarwyddion y Cynulliad. Mae hefyd yn groes i Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ei hun gan nad oes unrhyw ymdrech i gydlynu addysg ac adfywio cymunedol a chan ei bod yn amlwg yn groes i’r amcan strategol o ddiogelu cymunedau Cymraeg.Ymagwedd penderfynu’n gyntaf – ymgynghori wedyn yw hwn. Os cymeradwyir fory y strategaeth, bydd yn gwneud unrhyw ymgynghori’n ddi-ystyr gana) na bydd yn ymgynghori sir-eang ond yn wahanol ymgynghoriadau bach lleol na allent newid y strategaeth gyfan, ab) byddai’r egwyddor o gau ysgolion a chreu ysgolion canolog wedi’i sefydlu, ac byddai ymgynghori’n gyfyngedig i drafod lleoliad yr ysgol ganolog newydd gan chwarae cymunedau’n erbyn ei gilydd.“ Gofynnwn i chwi’n hytrach i gyfarwyddo’r Swyddogion Addysg i gynnal blwyddyn o ymgynghori dilys – ar sail eu dogfen, os bydd angen – trwy’r sir gyda rhieni, athrawon a chymunedau lleol ac i ddychwelyd atoch o fewn blwyddyn gyda strategaeth soffistigedig yn seiliadig ar anghenion amrywiol ein gwahanol gymunedau yn hytrach na’r strategaeth simplistaidd bresennol sy’n gyfleus yn weinyddol.”Rhybudd olaf y Gymdeithas yw “ Os penderfynwch mewn ychydig o funudau wrthod y dadleuon oll a mynd ati i gymeradwyo strategaeth o gau dwsinau o ysgolion, gofynnwn i chwi ymatal rhag y twyll o ddweud y byddwch wedyn yn trafod gyda’r cymunedau lleol sut i wneud defnydd cymunedol o’r adeilad. Mae eisoes wedi’i nodi yn ffigurau’r swyddogion eich bod yn bwriadu codi £10miliwn trwy werthu’r adeiladau. Byddai twyll o’r fath felly’n wirioneddol greulon”GWYBODAETH PELLACH: Cyfarfod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin 10am Bore Llun 1/11/04 Neuadd y Sir, Caerfyrddin. Eitem 6 i’w thrafod yw “Moderneiddio’r Ddarpariaeth Addysg a’r Cynllun Gweithredu Drafft.” Cewch dreulio awr yn chwilio gwefan y Cyngor Sir am y ddogfen fanwl sy’n enwi ysgolion, neu ewch yma ac wedyn ewch lawr y tudalen i’r “Useful Links” yn y gwaelod a hon yw’r ddogfen olaf a restrir !Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Carmarthen Journal