Cannoedd yn herio “Welsh Not” Radio Carmarthenshire

radio_carmarthenshire.JPGDisgwylir neuadd orlawn yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin pan fydd cannoedd o bobl ifanc yn dod i wrando ar fandiau Cymraeg yn chwarae gig byw i brotestio yn erbyn gwaharddiad Radio Carmarthenshire ar gerddoriaeth leol a Chymraeg.

Ar frig y rhestr bydd Lo Cut a Sleifar, band Steffan Cravos o Gaerfyrddin. Y diwrnod cynt bydd Steffan yn ateb nôl i Swyddfa’r Heddlu yn Noc Penfro i weld a fydd cyhuddiadau yn ei erbyn yn dilyn protest Cymdeithas yr Iaith yn stiwdio Radio Carmarthenshire yn Arberth fis Gorffennaf.Dywedodd trefnydd lleol y Gymdeithas, Heledd Gwyndaf :“Mae’r galw anferth am docynnau yn dangos fod pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn grac gyda pholisi gwrth-Gymraeg eu gorsaf radio “lleol” ac yn dangos eu cefnogaeth i Steffan ac eraill a fu ar y brotest honno. Mae’r ffaith fod y bandiau i gyd yn chwarae am gostau yn unig yn dangos eu bod hwythau’n awyddus i ni godi cymaint o arian â phosib i drefnu ymgyrch effeithiol i sicrhau na all Radio Carmarthenshire barhau i weithredu’r “Welsh Not” yn eu rhaglenni. Diflannodd agwedd daeog y Cymry ifanc at eu hiaith, ac nid yw Ceri Jones (Rheolwr Radio Carmarthenshire) yn mynd i lwyddo i adfer y dyddiau taeog.Anogwn bawb sydd heb docynnau i ddod yn gynnar i’r gig er mwyn bod yn siwr o gael lle.”Mwy o wybodaeth am y gig ymaStori oddi ar wefan y Carmarthen Journal 22/09/04Darllenwch Adolygiad o'r Gig gan Lowri JohnstonLluniau o'r GigStori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar Wefan Western MailStori oddi ar wefan y Carmarthen Journal 15/09/04Rhyddhau ar fechniaeth heb gyhuddiad - 25 Gorffenaf 2004“We never have played Welsh music and we never will!” - 24 Gorffenaf 2004Radio Carmarthenshire - Ni'n Gwrando! - 13 Mehefin 2004