Wrth i Gyngor Caerdydd gyhoeddi eu strategaeth ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn y brifddinas heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith wedi sylwi ar un elfen o'r cyhoeddiad sy'n sicr o achosi embaras i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio Cyngor Sir Gâr am feddwl, unwaith eto, fod y bobl leol yn rhy dwp i lenwi un o brif swyddi'r Cyngor Sir. Mae'r swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wedi ei hysbysebu am £88,600pa gydag amod am 'Sgiliau Cyfathrebu' ei fod yn hanfodol i ymgeiswyr gael 'Sgiliau Siarad ac Ysgrifennu Saesneg'.
Bydd digwyddiadau go ryfedd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin heddiw. Am 10am bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Arwerthiant Cyhoeddus o asedau nifer o swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor Sir - a hynny heb eu caniatad.
Yn dilyn rhyddhau Gwenno Teifi o garchar yn gynharach yn ystod y dydd, paentiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith y geiriau 'Deddf Iaith – dyma’r cyfle!' a 'Da iawn Gwenno'ar waliau Stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth neithiwr.
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Steffan Cravos wedi herio Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, trwy ebost i ymweld a'r carcharor Gwenno Teifi yfory yn HMP Eastwood Park ger Caerloyw i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Dywed Steffan Cravos:"Mae merch 19 oed yn y carchar oherwydd methiant llywodraeth y Cynulliad. Dylai Rhodri Morgan, o'i fan gyfforddus, ystyried ymweld â'r carchar."
Cafodd Gwenno Teifi, aelod 19 oed o Gymdeithas yr Iaith, ei charcharu am 5 niwrnod heddiw gan Llys Ynadon Caerfyrddin. Mae Gwenno Teifi, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Cafodd Gwenno ei dedfrydu yn yr union fan (Sgwar Caerfyrddin) lle cyhoeddwyd llwyddiant ei thadcu, Gwynfor Evans, deugain mlynedd ynghynt.
Mae Cymdeithas yr iaith yn cyhuddo swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin o geisio gorfodi aelodau etholedig i roi sel eu bendith ar gynlluniau gwario ar gyfres o ysgolion ardal canolog drwy'r sir, cyn iddynt gychwyn ar y broses o ymgynghori ar ddyfodol yr ysgolion pentrefol y byddid yn eu disodli.
Fe ymddangosodd Gwenno Teifi, aelod 18 oed o Gymdeithas yr Iaith yn Llys Ynadon Caerfyrddin ddydd Llun diwethaf 9/1, am iddi wrthod talu iawndal a chostau llys o £200 yn dilyn protest yn stiwdio Radio Sir Gar yn 2004.
Torwyd ar draws gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerfyrddin heddiw pan feddianwyd yr ystafell gan 25 o aelodau Cymdeithas yr Iaith pan ddaeth yn amlwg nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer achos Gymraeg yn erbyn aelod o'r Gymdeithas a oedd yn wynebu carchar.