Meddiannu Llys Caerfyrddin

Gwenno TeifiTorwyd ar draws gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerfyrddin heddiw pan feddianwyd yr ystafell gan 25 o aelodau Cymdeithas yr Iaith pan ddaeth yn amlwg nad oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer achos Gymraeg yn erbyn aelod o'r Gymdeithas a oedd yn wynebu carchar. Roedd Gwenno Teifi - 18 oed o Lanfihangel-ar-arth - o flaen y llys am wrthod talu costau ac iawndal hyd werth £200 yn dilyn protest yn stiwdio Radio Sir Gâr yn 2004.

01achos-gwenno-ion06.jpgGorfodwyd yr ynadon i ymadael a'r stafell a feddianwyd am 20 munud gan aelodau'r Gymdeithas a galwyd yr heddlu i mewn. Wedi cynnal y brotest yn y llys, am 20 munud, penderfynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith ymadael rhag ofn fod eu presenoldeb yn amharu ar wrandawiadau pobl eraill a oeddent i ymddangos o flaen y llys. Gohiriwyd yr achos yn erbyn Gwenno tan y 6ed o Fawrth.Meddai Gwenno Teifi,"Mae'r ffaith nad oeddwn i'n medru cael fy achos llys trwy gyfrwng y Gymraeg yn gwbl gywilyddus. Mae'r llys yng Nghaerfyrddin wedi cael digonedd o amser i fynd ati i ddarparu panel o Gymry Cymraeg i ddelio â'm achos. Mae'r llys yng Nghaerfyrddin wedi gwaethygu o ran darpariaeth a gwasnaeth cyfrwng Cymraeg. Bydd yn rhaid i mi aros nes y 6ed o Fawrth ar gyfer fy achos o'r newydd."achos-gwenno-ion06.jpgBu Gwenno Teifi yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn Radio Sir Gâr ddwy flynedd yn ôl pan fu'r Gymdeithas yn ymgyrchu dros rhagor o ddarpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar yr orsaf.Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd y grwp Deddf Iaith, Cymdeithas yr Iaith:Angen Deddf Iaith"Mae'r sefyllfa heddiw yn crisialu'r angen unwaith yn rhagor am Ddeddf Iaith Newydd. Ni ddylai unrhyw un orfod gofyn am Achos Llys trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn arbennig felly mewn ardal lle y mae 50% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Dylai fod gan bob diffynydd yr hawl i achos llys trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg."Ychwanegodd:"Mae Gwenno Teifi yn wynebu carchar am iddi dynnu sylw at yr angen am Ddeddfwriaeth gadarnach ym maes y Gymraeg yng nghyd destun cwmniau radio preifat. Yr eironi mawr am y ffaith i'r achos gael ei ohirio heddiw yw ei fod wedi crisialu'r angen unwaith yn rhagor am Ddeddf Iaith Newydd. Deddf sy'n caniatau i bobl fyw trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg yng Nghymru."Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd