Croeso i Gymru - £88,600 - Nid oes angen y Gymraeg

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio Cyngor Sir Gâr am feddwl, unwaith eto, fod y bobl leol yn rhy dwp i lenwi un o brif swyddi'r Cyngor Sir. Mae'r swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wedi ei hysbysebu am £88,600pa gydag amod am 'Sgiliau Cyfathrebu' ei fod yn hanfodol i ymgeiswyr gael 'Sgiliau Siarad ac Ysgrifennu Saesneg'. Nid oes amod hyd yn oed fod y Gymraeg yn ddymunol.

Wrth sylwadu ar y sefyllfa, dywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:"Fe fydd Cyngor Sir Gâr, yn unol a'u harfer, eto fyth yn chwilio am yr 'ymgeisydd gorau' tu allan i'r sir i gymeryd un o'r prif swyddi, gan beri digalondid pellach ymysg y staff presennol. Yr esgus a ddefnyddir dros beidio gofyn am gymhwyster yn y Gymraeg yw na fydd yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd, ond yn hytrach yn canolbwytio ar weinyddiaeth fewnol. Mae'n wybyddus i bawb fod Cyngor Sir Gâr yn gorff cyhoeddus sydd yn defnyddio ein harian ni i gynnal eu holl fusnes yn Saesneg, tra'n rhoi wyneb dwyieithog ffug ymlaen i'r cyhoedd."" Y peth olaf y bydden ni am ei weld yw apwyntio siaradwr Cymraeg a fydd yn gwneud ei waith i gyd drwy'r Saesneg. Os fydd y Gymraeg i oroesi fel iaith fyw yn y sir, fe fydd yn rhaid i Gyngor Sir Gâr osod esiampl drwy gynnal ei fusnes ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg, yn amlwg wedyn fe fydd y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i'r Swyddogion."Dyddiad Cau y swydd: 16eg o FawrthDolen: Proffil Swydd a Manyleb Person (PDF - 2mb)£88k county job ad angers Cymdeithas - icwales.co.ukCouncil accused of false bilingual policy - thisissouthwales.co.uk