Ymyrraeth Bwrdd yr Iaith yn profi'r angen am Ddeddf Iaith Newydd

Gwenno TeifiFe ymddangosodd Gwenno Teifi, aelod 18 oed o Gymdeithas yr Iaith yn Llys Ynadon Caerfyrddin ddydd Llun diwethaf 9/1, am iddi wrthod talu iawndal a chostau llys o £200 yn dilyn protest yn stiwdio Radio Sir Gar yn 2004.

Bu'n rhaid gohirio'r achos gan nad oedd hi'n bosib i'w gynnal yn Gymraeg, dadleuodd swyddogion y llys fod yn rhaid gwneud cais arbennig i gael yr achos yn Gymraeg.Yn dilyn hyn danfonodd Gwenno gwyn swyddogol at Bwrdd yr Iaith gan ddweud:"Cefais siom fawr o ddeall nad oedd modd i mi gael grandawiad Cymraeg oherwydd fod un o'r Ynadon ddim yn siarad Cymraeg. Tynnaf eich sylw at yr anghyfiawnder hwn yn y gobaith y gallwch gysylltu a'r awdurdodau perthnasol i sicrhau na all sefyllfa fel hon godi eto."Dywedodd Bwrdd yr Iaith y byddant yn cyfarfod â Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi ddydd Mercher 18.1.06, ac fe fydd y mater hwn yn un o'r eitemau i'w trafod ar yr agenda.Mewn ebost at Gymdeithas yr Iaith dywed llefarydd o Fwrdd yr Iaith "Nid oes gofyn i unigolyn roi rhagrybudd os yw ef neu hi yn dymuno gwrandawiad Cymraeg mewn llys ynadon yng Nghymru dan fesurau Deddf yr Iaith 1993.Byddwn felly'n trafod pa gamau y mae llysoedd ynadon yn eu cymryd i sefydlu dewis iaith unigolyn sydd yn ymddangos ger eu bron, er mwyn sicrhau bod y trefniadau priodol yn eu lle i gynnal achos yn Gymraeg neu'n Saesneg, yn ôl dewis yr unigolyn."Dywed Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr, Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r digwyddiad yma'n dangos nad oes sicrwydd fod gan siaradwyr Cymraeg hawliau i ddefnyddio eu hiaith eu hunain yng Nghymru hyd yn oed ym maes gweinyddiaeth gyhoeddus. Dyma brawf unwaith eto fod Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr yn hanfodol."