Yn dilyn rhyddhau Gwenno Teifi o garchar yn gynharach yn ystod y dydd, paentiodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith y geiriau 'Deddf Iaith – dyma’r cyfle!' a 'Da iawn Gwenno'ar waliau Stiwdio Radio Sir Gâr yn Arberth neithiwr.
Mae cyfle unigryw i gael Deddf Iaith addas i’r ganrif newydd yn ystod y 12 mis nesaf gan fod deddfwriaeth yn gorfod dod gerbron Senedd San Steffan beth bynnag i ddiddymu Bwrdd yr Iaith. Mae’r Gymdeithas yn ymgyrchu dros Ddeddf a fyddai’n gwneud y Gymraeg yn ganolog i bob rhan o fywyd cyhoeddus Cymru – yn cynnwys gorfodi gosafau radio lleol i gyflwyno gwasanaeth addas yn Gymraeg.Trefnwyd y weithred dros nos gan Ranbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith fel arwydd o barhad yr ymgyrch a gwerthfawrogiad o safid ac arweiniad Gwenno.