Her at y Prif Weinidog

Rhodri MorganMae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Steffan Cravos wedi herio Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, trwy ebost i ymweld a'r carcharor Gwenno Teifi yfory yn HMP Eastwood Park ger Caerloyw i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Dywed Steffan Cravos:"Mae merch 19 oed yn y carchar oherwydd methiant llywodraeth y Cynulliad. Dylai Rhodri Morgan, o'i fan gyfforddus, ystyried ymweld â'r carchar."