Carcharu Gwenno am 5 niwrnod

Gwenno TeifiCafodd Gwenno Teifi, aelod 19 oed o Gymdeithas yr Iaith, ei charcharu am 5 niwrnod heddiw gan Llys Ynadon Caerfyrddin. Mae Gwenno Teifi, o Lanfihangel-ar-arth yn fyfyriwr flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Cafodd Gwenno ei dedfrydu yn yr union fan (Sgwar Caerfyrddin) lle cyhoeddwyd llwyddiant ei thadcu, Gwynfor Evans, deugain mlynedd ynghynt.

Ym mis Ebrill 2005, fe'i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar yn Arberth a gorchmynwyd iddi dalu costau llys ac iawndal hyd werth £200 ond gwrthododd Gwenno dalu iawndal i'r Orsaf Radio a fu'n destun ymchwiliad gan Ofcom llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o'r Gymraeg.2achos-gwenno-caerfyrddin.jpg.jpgYn ei datganiad i'r Ynadon dywedodd Gwenno:"Mae'r Orsaf Radio hon yn dwyn enw'r sir y cefais i fy magu ynddi, ac y mae eu diffyg defnydd o'r Gymraeg yn warthus. Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid iddi fod yng nghanol yr holl ddatblygiadau sy'n berthnasol i bobl ifainc fel radio leol.""Mae'r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i oes a fu. Rhaid wrth Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau lle i'r Gymraeg yn holl gyfryngau a datblygiadau technolegol y ganrif newydd."achos-gwenno-caerfyrddin.jpg.jpg3pmCardiau Ffolant at GarcharorMae dwsinau o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn danfon cardiau Ffolant at Gwenno Teifi yng ngharchar Eastwood Park ger Caerloyw. Bydd y fyfyrwraig 19 oed yn treulio Dydd Ffolant yn y carchar fel rhan o ddedfryd 5 diwrnod am wrthod talu costau ac iawndal fel rhan o'r Ymgyrch Deddf iaith Newydd.Gwenno Teifi FfransisYoung Offenders WingHMP Eastwood ParkFelfieldWotton-under-EdgeGloucestershireGL12 8DB1achos-gwenno-caerfyrddin.jpg.jpg4.45pmGwenno yn y carcharMae Gwenno Teifi wedi cyrraedd carchar Eastwood Park ger Caerloyw erbyn hyn, ac wedi ffonio adref o'r carchar. Mae swyddogion y Llys wedi dweud wrth Gwenno y bydd rhaid iddi aros yn y carchar am y 5 diwrnod llawn. Mae Swyddogion y carchar wedi dweud wrth ei theulu bod siawns y caiff ei rhyddhau ymhen tridiau.Daw cadarnhad yfory (Mawrth 14/02) a bydd manylion llawn yma am gyfarfod croesawu Gwenno nôl i Aberystwyth.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori 1 oddi ar wefan y Western MailStori 2 oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily PostStori oddi ar wefan Pembrokeshiretv.com