Gwneud ffars o ymgynghori

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr iaith yn cyhuddo swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin o geisio gorfodi aelodau etholedig i roi sel eu bendith ar gynlluniau gwario ar gyfres o ysgolion ardal canolog drwy'r sir, cyn iddynt gychwyn ar y broses o ymgynghori ar ddyfodol yr ysgolion pentrefol y byddid yn eu disodli.

Yn dilyn cyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith, ddydd Llun Chwefror 6ed, byddant yn ceisio cael sel bendith yr aelodau etholedig mewn cyfarfod o'r cyngor llawn,ar ddiwedd y mis 28/2, ar fuddsoddiad mewn ysgolion ardal yn Llanwrda,Pontyberem a Phontiets. Dywedodd Angharad Clwyd:"Bydd yr ymrwymiad i ddatblygu yr ysgolion ardal canolog hyn yn amlwg yn effeithio ar ddyfodol yr ysgolion pentrefol amgylchynol, ac yn gwneud ffars o bob trafodaeth ynghylch eu dyfodol. Mae'r swyddogion yn euog o geisio gorfodi eu hewyllys. Nid ydynt eto wedi cychwyn ar y broses ymgynghorol statudol hyd yn oed yn yr ysgolion y gobeithiant eu cau yn 2006 - 08, gydag eithriad un neu ddwy ysgol lle nad ydynt yn disgwyl unrhyw wrthwynebiad. Maent yn amlwg am wneud yr holl broses yn fait accompli."Galwn ar gynghorwyr i sefyll yn gadarn yn erbyn cael eu defnyddio yn y modd yma a gofynwn i Weinidog Addysg y Cynulliad, Jane Davidson a yw'n fodlon fod y broses ddemocrataidd o ymgynghori statudol yn cael ei lygru yn y modd amlwg hwn."