Caerfyrddin Penfro

"Mae'r Gymraeg yn iaith estron" yng Nghymru dywed Focus

Ble mae'r Gymraeg?Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.

Cyngor Sir Gar yn Gwrthod Cais am Dai

bawd_deddf_eiddo.jpgMae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod.

Cymdeithas yn cefnogi Ysgol Llanarthne

Cadwn Ein Hysgolion.JPGFe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn sefyll o flaen adeilad y Cyngor Sir yng Nghaerfyrddin bore fory (Llun 10/12)am 9.30am i ddangos eu cefnogaeth i frwydr cymuned Llanarthne dros gadw eu hysgol.Unwaith eto mae'r Cyngor Sir wedi dangos eu hawydd i wthio eu hagenda drwodd mor gyflym a phosibl heb ystyried barn nac anghenion y gymuned.

Twyll Datblygwyr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol.

Arolwg o Morrisons yn dilyn torri addewid

Archfarchnad MorrisonsBydd arolygwyr Cymdeithas yr Iaith yn ymweld a siop Morrisons Caerfyrddin ddydd Sadwrn 24/11/07 am 1pm er mwyn gwneud arolwg o'r defnydd o'r Gymraeg yn y siop. Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.

Teyrnged i Ray Gravell

Ray GravellAr ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae Cadeirydd Rhanbarth Sir Gâr y Gymdeithas wedi talu teyrnged i Ray Gravell. Dywedodd Sioned Elin:"Roedd Ray Gravell yn gadarn yn ei ymrwymiad i Gymru, i'r Gymraeg ac yn arbennig i gymunedau Cymraeg. Mae ymgyrchwyr iaith dros y blynyddoedd wedi gwerthfawrogi ei gefnogaeth i'r achos a'i gyfeillgarwch."

Cyngor i chwalu Ysgol ac adeiladu 6 ty ar y safle

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r Cyngor o fod yn fandaliaid sydd ddim ond am wneud elw wrth ymateb i'r newyddion ysgytwol fod Cyngor Sir Gar am chwalu Ysgol Mynyddcerrig. Dim ond mis sydd ers i'r ysgol gau a nawr mae'r Cyngor wedi gwneud cais am ganiatad cynllunio i ddatblygu 6 ty ar y safle.

Dim Esgusodion y tro yma medd Cymdeithas

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi atgoffa Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gâr y byddant yn trafod y datblygiad tai arfaethedig yn Waungilwen, Drefach Felindre gyda thudalen wag.

Meddiannu Ysgol Mynyddcerrig

Meddianu Ysgol MynyddcerrigMae arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr wedi cymryd y cam eithriadol o feddiannu adeilad ysgol Mynyddcerrig a gaewyd ar ddiwedd y tymor diwethaf. Yn oriau man y bore heddiw torrodd yr aelodau i mewn i adeilad neuadd/ffreutur yr ysgol lle cynhaliwyd yr ymgynghori a newidiwyd y clo.

Cyngor yn anwybyddu barn pobl leol am ddatblygiad tai

bawd_deddf_eiddo.jpgBydd Swyddogion Cynllunio Cyngor Sir Gar heddiw'n argymell bod y Pwyllgor Datblygu (sy'n cyfarfod am 10.30am Iau 30 Awst yn Neuadd y Sir) yn cymeradwyo cais cynllunio i godi 52 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd, a thrwy hynny'n dyblu maint y pentref.