Cyngor Sir Gar yn Gwrthod Cais am Dai

bawd_deddf_eiddo.jpgMae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod. Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gyfarfod am 10.30am bore yma Iau yr 20ed o Ragfyr i drafod y cais dadleuol, a wrthwynebwyd yn chwyrn gan y gymuned leol; ac er llawenydd mawr i'r gymuned ac i aelodau'r Gymdeithas yn lleol fe gytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r swyddogion ac fe wrthodwyd y cais.

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith sydd yn byw ymMhont-Tyweli:"Fel y dywed y swyddogion yn eu Adroddiad, roedd y datblygiadarfaethedig hwnyn gwbwl groes i'r hyn mae'r Cyngor ei hun yn ei ganiatau. Yn ol Cynllun Datblygu Unedol y sir ni ddylai unrhyw ddatblygiad gael 'EFFAITH NIWEIDIOL AR HYFYWEDD A BYWIOGRWYDD YR IAITH A'R DIWYLLIANT GYMRAEG', rydym am longyfarch y swyddogion am roi ystyriaeth lawn i'r effaith hwn.Barn y swyddogion oedd:'mae amheuaeth ynglyn ag effaith y datblygiad ar iaith a chymuned Pont-Tyweli pe bae 50 o dai yn cael eu datblygu o fewn oes y caniatad.'Rheswm cryf arall dros argymell i'r cais gael ei wrthod oedd bod y datblygiad ynllawer rhy fawr i'r gymuned leol. Hoffwn longyfarch swyddogion a phwyllgor cynllunio'r Cyngor am eu penderfyniad calonogol."Am fwy o fanylion pwyswch yma.