Cymunedau Rhydd

Datblygiad tai Caerfyrddin, angen dechrau o'r dechrau

protest-s4c.JPGMae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu. Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin.

Seiclo dros y Gymraeg, lansiad siarter

Fe gyrhaeddodd dau ymgyrchydd iaith faes yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth Awst 2) ar ol seiclo dros 70 milltir er mwyn tynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.kali-robin-020811.jpgSeiclodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod 'Lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ar faes

Seiclo i'r Steddfod dros gymunedau Cymraeg

robin-a-kali.jpgFe fydd dau ymgyrchydd iaith yn seiclo dros 70 milltir i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i dynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, fydd yn seiclo o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod lle trafodir tynged y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod.

Angen 'chwyldro tai' er mwyn achub cymunedau - protest Bodelwyddan

protest-bodelwyddan.jpgBu ymgyrchwyr yn galw am 'newidiadau radical' yn y gyfundrefn cynllunio mewn protest yn erbyn datblygiad tai enfawr yng ngogledd Cymru heddiw (Dydd Sadwrn, Gorffennaf 2).Mae ymgyrchwyr yn gwrthwynebu cynllun i godi dwy fil o adeiladau newydd ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych, cynllun a fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55.Cafodd y brotest, tu allan i neuadd y s

Beirniadu Cynllun Tai Bodelwyddan

Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu cynllun i godi 2,000 o adeiladau newydd gan gynnwys cartrefi a siopau ym mhentref Bodelwyddan yn Sir Ddinbych. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun i drafod asesiad gan y Cyngor Sir i effaith tebygol y datblygiad ar gymuned y pentref a'r iaith Gymraeg.Roedd tua 80 o bobol wedi mynd i'r cyfarfod er mwyn gwrthwynebu'r cynllun fyddai'n treblu maint y pentref sydd ger yr A55. Bydd ymgynghoriad chwe wythnos i'r datblygiad yn dechrau ar 26 Ionawr.

Llwyddiant Cymuned Waungilwen

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gefnogi cymuned Waungilwen, Drefach Felindre a gwrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatau datblygiad o 13 o dai yn y pentref. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddoe 23/11/10 fe siaradodd aelodau o gymuned Waungilwen a'r cynghorydd sir leol John Crossley yn gryf yn erbyn y cais yma a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar iaith a diwylliant y gymuned fach glos yma. Hefyd yn siarad roedd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a Chynghorydd Cymuned yn ward Llangeler.

Bygythiad i gymunedau gogledd Cymru - Cynhadledd Undydd

cynhadledd-wrecsam-bach.jpgBydd gwleidyddion, arbenigwyr ac ymgyrchwyr yn trafod sut i amddiffyn cymunedau yng ngogledd Cymru mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Glyndwr yfory (10am, Dydd Sadwrn, 25 Medi) yn sgil bygythiadau megis y cynllun is-ranbarthol Caer-Gogledd Dwyrain Cymru a chau ysgolion mewn ardaloedd gwledig.

Eisteddfod Cymdeithas yr Iaith

Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y LlywodraethCafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.1cyfarfodt-gen09.jpgCyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn

Dros 100 yn mynychu Cyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy'

cyfarfodt-gen09.jpgDaeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.

Meddiannu Eiddo dros ein Cymunedau Cymraeg

7.jpgAm 11 yb ar ddydd Sadwrn yr 24ain o Ionawr, meddiannwyd fflat yn natblygiad Doc Fictoria yng Nghaernarfon gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'r weithred symbolaidd hon yn rhan o'r ymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg Cymru, a thros sefydlu'r Hawl i Rentu fel rhan o?r ateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r cymunedau hynny.