Ar drothwy yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Gynllun Datblygu Unedol Cyngor Sir Ceredigion, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan pryder ynglyn â lle yr iaith Gymraeg o fewn y broses.
Fe ymgasglodd dros 200 o bobl heddiw ar y Maes yng Nghaernarfon i gefnogi galwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Eiddo. Bu adloniant byw ar y Maes cyn i bawb orymdeithio draw i Swyddfeydd y Cynulliad yn y dref, lle cafodd Proclemasiwn gan y Gymdeithas ei godi ar furiau'r Swyddfeydd.
Yn ystod ei Rali Calan – a gynhelir yfory am 2pm ar y Maes yng Nghaernarfon – bydd Cymdeithas yr Iaith yn condemnio’r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod y cyfle i leddfu effeithiau’r argyfwng tai, trwy fethu a chynyddu ei gyllideb tai yn ei gyllideb ddiwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Ar drothwy Rali Calan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – a gynhelir yng Nghaernarfon ar Ionawr 3ydd, er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai a’r angen am Ddeddf Eiddo – mae ymchwil brys gan y mudiad, wedi dangos nad oes yr un tŷ ar werth gan arwerthwyr tai yng Nghaernarfon, am bris is na £60,000.
Yn dilyn methiant Llywodraeth y Cynulliad heddiw i glustnodi unrhyw gyllid sylweddol ar gyfer datrys y broblem dai yn ei cymunedau Cymraeg, mae Cymdeithas yr iaith wedi cyhoeddi heddiw newid cyfeiriad radicalaidd yn ei hymgyrch dros ddyfodol y cymunedau hynny.
Neithiwr (Sul 24/10/04), peintiwyd y slogan – ‘Cymorth Prynu - £5 miliwn’ – gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar furiau swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yn Aberystwyth.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Rhodri Morgan i gwyno nad yw cyllideb ddrafft y Cynulliad yn cynnwys unrhyw strategaeth dros y tair blynedd nesaf i alluogi Cymry ifanc i gael tai yn eu cymunedau lleol.
Bydd yr ymchwiliad i Gynllun Datblygu Ceredigion yn cychwyn y dydd Iau hwn (Hydref 7fed) am 10 o’r gloch ym Mhencadlys Cyngor Ceredigion, ym Mhenmorfa, Aberaeron.
Am 2yh bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod protest er mwyn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ar frys er mwyn lleddfu’r argyfwng tai. Gelwir arnynt i wneud hynny, trwy ddarparu cynnydd sylweddol yn y gyllideb tai, erbyn mis Tachwedd yma.
Yn gynnar y bore yma fe osodwyd cadwyni ar draws mynedfa swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin er mwyn rhwystro'r gweithwyr rhag mynd i'w gwaith. Parhaodd hyn am hanner awr cyn i'r heddlu gyrraedd a thorri'r protestwyr o'r cadwyni.