Ar drothwy Rali Calan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg – a gynhelir yng Nghaernarfon ar Ionawr 3ydd, er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai a’r angen am Ddeddf Eiddo – mae ymchwil brys gan y mudiad, wedi dangos nad oes yr un tŷ ar werth gan arwerthwyr tai yng Nghaernarfon, am bris is na £60,000.
Pan ystyrir bod cyfartaledd prisau tai ar draws Gwynedd bellach, yn ôl y Gofresfa Dir, yn £130,000, a bod y cyfartaledd cyflog, yn ôl Cyngor Gwynedd, ond yn £15,900, mae’r wybodaeth yma yn pwysleisio unwaith eto sefyllfa ddifrifol y farchnad dai. Ymhellach, mae’n pwysleisio perthnasedd galwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo i Gymru; mesur a fyddai’n estyn elfen o reolaeth dros y farchnad dai. Dyma’r alwad a fydd yn cael ei ddatgan yn glir yn ystod Rali Calan y mudiad, a gynhelir ar y Maes yng Nghaernarfon am 2pm ar ddydd Llun, Ionawr 3ydd.Yn ystod y rali, bydd Cymdeithas yr Iaith yn pwysleisio fod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwrthod y cyfle i leddfu effeithiau’r argyfwng tai, trwy fethu a chynyddu ei gyllideb tai yn ei gyllideb ddiwethaf a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd - mae cyllideb tai y Cynulliad bellach yn llawer is nag ydoedd yn nyddiau'r hen Swyddfa Gymreig! O ganlyniad, ar ddechrau blwyddyn newydd, bydd y Gymdeithas yn datgan bod yn rhaid bellach ymgyrchu dros newidiadau sylfaenol, gan gynnwys ymyraeth yn y farchnad dai trwy gyfrwng Deddf Eiddo.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Tra bod y Llywodraeth yn llaesu eu dwylo, mae’r ffigyrau hyn yn pwysleisio eto fod effeithiau’r argyfwng tai yn parhau i frathu, gan danseilio cymunedau lleol a’r iaith Gymraeg. O ganlyniad, ar ddechrau blwyddyn newydd, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan bod yn rhaid bellach ymgyrchu dros newidiadau sylfaenol, gan gynnwys elfen o reolaeth o’r farchnad dai. Gellid cyflawni hyn trwy gyfrwng Deddf Eiddo – pecyn o fesurau a fyddai yn sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad i'r farchnad dai, bod prisiau tai yn adlewyrchu'r farchnad leol, bod datblygiadau o dai yn adlewyrchu'r angen lleol a bod digon o dai ar rent.“Bu aelodau o’r Gymdeithas wrthi, ers rai misoedd, yn ail-edrych ar bolisi Deddf Eiddo’r mudiad, gan roi ystyriaeth i ddatblygiadau diweddar yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Brydain ac Ewrop.“Bydd y rali yng Nghaernarfon yn fodd i lawnsio’r ymgyrch newydd hon. Yna ymhen pythefnos bydd Cymdeithas yr Iaith yn lawnsio cyfnod o ymgynghori ar gynigion Deddf Eiddo. Byddwn yn galw ar gynghorau, sefydliada, a mudiadau, i ddatgan cefnogaeth i’n galwadau er mwyn dwyn pwysau ar y Llywodraeth.”Prisiau Tai Arwerthwyr Caernarfon:Dafydd Hardy• Rhataf - £65,000 – Penygroes a Talsarn• Drutaf - £595,000 – Rhos IsafBeresford Adams• Rhataf - £60,000 – Caernarfon• Drutaf - £360,000 – CaernarfonBob Parry• Rhataf - £60,000 – Penygroes• Drutaf - £345,000 – CaernarfonMwy o wybodaeth:Huw Lewis – 07977 517 650Hedd Gwynfor – 07815 730 874