Cymunedau Rhydd

Cymuned Pont-Tyweli yn ennill brwydr arall

bawd_deddf_eiddo.jpgMae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.

A fydd datblygwyr yn llwyddo i dwyllo Cyngor Sir Gar?

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi.

Dim un ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.

Codi 'Ty Unos' ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol

bawd_deddf_eiddo.jpgEr mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.

Ymateb i'r cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i adroddiad gyhoeddwyd ar y cyd yn y Sioe Amaethyddol gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Ewch y filltir ychwanegol

bawd_deddf_eiddo.jpgTra'n cefnogi cynnig Llywodraeth y Cynulliad i hybu awdurdodau lleol i brynu tai a'i rhentu yn ôl i berchnogion tai â phroblemau ad-dalu morgeisi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu'r syniad a sefydlu polisi 'hawl i rentu'.

Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi cymuned San Clêr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clêr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.

Rhaid ystyried anghenion pobl leol a'r iaith Gymraeg wrth ystyried cynllunio

bawd_deddf_eiddo.jpgCafodd cynghorwyr yng Ngheredigion eu beirniadu am ganiatáu ceisiadau cynllunio gan siaradwyr Cymraeg er bod argymhelliad i'w gwrthod.Dywedodd Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, eu bod nhw'n cefnogi penderfyniad y cynghorwyr i gefnogi pobl leol.

Cyngor Sir Gar yn Gwrthod Cais am Dai

bawd_deddf_eiddo.jpgMae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod.

Twyll Datblygwyr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol.