Dim un ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi addo gwneud popeth yn ei gallu i atal datblygiad tai a fyddai'n tanseilio cymuned Gymraeg yn Nyffryn Teifi ac yn gwneud nonsens llwyr o gyfreithiau cynllunio.

Ar yr 20fed o Ragfyr 2007 gwrthododd Cyngor Sir Gar ganiatâd i gais cynllunio gan gwmni Eatonfield i godi 50 o dai ym Mhont-Tyweli oherwydd (ymhlith rhesymau eraill) yr effaith y byddai'n ei gael ar yr iaith Gymraeg. Roedd y cais hwn yn cynnwys canran tocynistaidd o "dai fforddiadwy". Bellach, am 1.30pm dydd Iau (14/8) bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar yn ystyried cais arall gan y cwmni am gael codi 31 o dai ar yr un safle a fyddai, yn syml, yn hepgor y tai fforddiadwy a oedd yn rhan o'r cais gwreiddiol ac yn cynnig adeiladu tai mawr 4 ystafell wely yn unig. Mae'r swyddogion cynllunio yn argymell derbyn y cais hwn, er eu bod yn cyfaddef eu hunain fod y nifer yn ormod i'r angen yn lleol. Dywed eu hadroddiad i'r pwyllgor Craffu:"Er hynny, yn yr achos hwn, ac mewn ardal mor wledig, mae nifer yr anheddau sy'n cael eu cynnig lawer yn uwch na'r dyraniad, a bydd hynny'n effeithio ar allu'r anheddiad a'r gymuned i addasu i gynifer o anheddau. Gan hynny, ystyrir bod y datblygiad, o ran ei faint a'i raddfa yn fwy na'r angen yn lleol, ac adlewyrchir hynny yn y nifer a ddynodwyd ar gyfer Pont-Tyweli fel cyfanswm."Ond gan fod cais i adeiladu 31 o dai ar y safle wedi ei ganiatáu yn 1990, ac i'r gwaith ar y safle gychwyn o fewn yr amser penodedig (sef torri twll yn y berth a dechrau ar y gwaith o glirio heol i'r stad newydd - sydd yn amhosib eu gweld bellach), dywed y swyddogion nad oes dewis ganddynt ond i dderbyn y cais yma.Meddai Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd sy'n bywyn y pentref:"Mae hyn yn gwneud nonsens llwyr o'r holl system gynllunio. Nid ydym am adael i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg yng nghefn gwlad gael eu pennu gan ddatblygwyr tai preifat. Mae'n rhaid i gynghorwyr Cyngor Sir Gâr wneud safiad dros y bobl leol a gwrthod y cais diwygiedig sinigaidd hwn. Yn sicr, bydd Cymdeithas Yr Iaith yn gwneud popeth o fewn ei gallu i osod pob rhwystr yn eu ffordd."Mwy wybodaeth:http://www.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20080814/REP05-04.HTM#P311_11941