A fydd datblygwyr yn llwyddo i dwyllo Cyngor Sir Gar?

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Gwrthodwyd y datblygiad o 50 o dai a gynigwiyd gan cwmni Eatonfield yn Rhagfyr 2007 gan y Cyngor Sir ar y sail y byddai datblygiad o'r fath yn tanseilio iaith y gymuned leol. Roedd y datblygiad o 50 o dai yn cynnwys 15 "token" o dai "fforddiadwy".

Mae'r cwmni yn awr wedi ail gyflwyno'r cais am ddatblygiad llai o 31 ty, 4 ystafell wely gan hepgor y tai "fforddiadwy", felly bydd pob un ty y tu hwnt i gyrraedd y gymuned leol. Ymgais yw hwn gan y cwmni i dwyllo cynghorwyr drwy honni fod caniatad cynllunio a roddwyd nol ym 1990 dal yn weithredol oherwydd iddynt gychwyn gwaith ar ffordd fynediad o fewn y cyfnod 5 mlynedd angenrheidiol. Mae pobl lleol yn gwrthod yr honiad yn llwyr a chant eu cynrhychioli gan lefarwyr yn y pwyllgor cynllunio fory.Un o'r llefarwyr yn y cyfarfod bydd y Cynghorydd Cymuned lleol, Angharad Clwyd sydd hefyd yn drefnydd i Gymdeithas yr Iaith yn yr ardal. Dywedodd Angharad cyn y cyfarfod:"Mae'n warthus fod y cwmni yn ceisio twyllo'r Cyngor drwy wneud honiad mor gyfeiliornus. Byddwn eto yn galw ar y Cyngor i wrthod y cais. Mae'r angen yn lleol am dai cymdeithasol ac mae Cymdeithas yn ymgyrchu dros hyn yn ein hymgyrch 'Hawl i Rentu'. Y peth lleiaf y gall y Cyngor ei wneud yw mynnu fod yna gynllun partneriaeth rhwng y datblygwyr a'r Cyngor , tebyg i'r cynllun "Camau Cyntaf" a fabwysiadwyd gan Gyngor Conwy. Golyga hyn y byddai tai yn cael eu cynnig i restr o bobl leol am 2/3 o bris y farchnad gyda'r Cyngor yn darparu'r gweddill. Byddai'r tai wedyn yn mynd yn ol i'r Cyngor pan fyddai'r bobl oedd wedi eu prynu am bris llai yn symud ymlaen."http://www.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20081009/REP03_04.HTM#P1239_75261