Cymuned Pont-Tyweli yn ennill brwydr arall

bawd_deddf_eiddo.jpgMae ymgyrchwyr lleol ym mhentref Pont-Tyweli, ger Llandysul wedi ennill brwydr arall yn ei hymgais i atal datblygiad o 31 o dai 4 ystafell wely yn eu pentref. Gohiriwyd penderfyniad heddiw gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Gar, tra eu bod yn aros am gyngor cyfreithiol pellach ynghylch a yw'r caniatad a roddwyd nol yn 1990 i adeiladu 31 o dai dal yn ddilys a'u peidio.

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed - Cymdeithas yr Iaith:"Fe fydd y gymuned leol ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith yn parhau i frwydro yn erbyn y datblygiad niweidiol hwn. Fe fyddwn yn pwyso ar y pwyllgor cynllunio i wrthod y cais gan ofyn i'r datblygwyr ail gyflwyno cais am nifer rhesymol o dai sydd oll yn fforddiadwy i'r gymuned leol. Gobeithiwn y bydd y llwyddiant yma yn rhoi hyder i gymunedau eraill sy'n wynebu'r un bygythiadau, ac mae croeso i boblgysylltu a Chymdeithas yr Iaith os oes datblygwyr yn bygwth eu cymuned hwy."