Am 8:30am ar fore dydd Llun, 12 Gorffennaf 2004, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin.
Daeth protest lwyddiannus gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ben to swyddfa'r Cynulliad Cenedlaethol yn Llandrillo yn Rhos i ben am ddeuddeg o'r gloch prynhawn heddiw. Protest oedd hon a alwai ar i lywodraeth y Cynulliad neilltuo mwy o arian yn ei chyllideb nesaf ar gyfer y farchnad dai yng Nghymru.
Am saith o’r gloch bore heddiw (Dydd Iau Gorffennaf 8fed) dringodd nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar do adeilad Llywodraeth Cymru yn Llandrillo yn Rhos er mwyn tynnu sylw at y broblem tai yng Nghymru.
Heddiw bu deuddeg o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio y tu allan i adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaernatfon. Cynhaliwyd piced am ddwyawr y tu allan i’r adeilad er mwyn tynnu sylw at y broblem dai yn y cymunedau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â phob un o'r 178 ymgeisydd sy'n sefyll yn yr etholiadau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Iau nesaf yn gofyn iddynt daflu Cynllun Datblygu Unedol y Sir i'r neilltu a dechrau eto.
Mewn trafodaeth ar effeithiolrwydd y Cynllun Cymorth Prynu yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan bod y Llywodraeth yn bwriadu edrych yn fanwl ar reolau’r Cynllun dros y deufis nesaf.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu rhai oír pwyntau hynny a gynhwysir yn y datganiad ar dai fforddadwy a fydd yn cael ei gyflwyno ar lawr y Cynulliad, brynhawn dydd Mawrth, gan Carwyn Jones, y Gwinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad.
Heddiw (Dydd Mercher Mawrth 3ydd), bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd gyda Hywel Williams A.S. i gyflwyno llythyr i Gordon Brown a swyddogion y Trysorlys yn Llundain, er mwyn tynnu sylw at y niwed y gall newidiadau gynigir yn y Gyllideb y mis nesaf ei wneud i'r farchnad dai yng Nghymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol Cymru yn gofyn iddynt gefnogi Hywel Williams yn erbyn bwriad Gordon Brown i wneud newidiadauiír Cynlluniau Self Invested Personal Pensions (SIPPS) aír Self Administered Plans yn y Gyllideb y Mis nesaf.