Herio'r Llywodraeth i wneud mwy i leddfu'r argyfwng tai yng Nghymru

deddf_eiddo.gif Mewn trafodaeth ar effeithiolrwydd y Cynllun Cymorth Prynu yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan bod y Llywodraeth yn bwriadu edrych yn fanwl ar reolau’r Cynllun dros y deufis nesaf.

Cred Cymdeithas yr Iaith bod yr uchafswm o £60,000 a roir ar bris ty^ fyddai’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol o dan y Cynllun yn afrealistig o ystyried prisiau y farchnad dai ar hyn o bryd. Credant y byddai diweddaru’r rheolau fel eu bod yn adlewyrchu’r argyfwng presennol yn gam pwysig tuag at sicrhau bod prynwyr tro-cyntaf yn cael mynediad i’r farchnad dai yn eu hardal leol. Wedi dweud hynny, mae Cymdeithas yr Iaith yn pwysleisio bod yn rhaid sicrhau mwy o arian i’r Cynllun Cymorth Prynu yn y Gyllideb ym mis Tachwedd os am gyrraedd yr amcan hwn.Dywedodd Dafydd Tudur (Cadeirydd Grwp Ymgyrch Cymunedau Rhydd):‘Rhaid sicrhau bod gan bobl hawl i fyw yn eu hardal leol os am sicrhau dyfodol i gymunedau Cymru. Byddai addasu’r rheolau’r Cynllun Cymorth Prynu i adlewyrchu prisiau’r farchnad yn gam pwysig tuag at hynny, ond rhaid i fwy o arian gael ei roi tuag y Cynllun yn y Gyllideb nesaf os yw’r alwad am gymorth o’r fath am gael ei hateb yn effeithiol.’Ychwanegodd Dafydd Tudur:‘Mae prisiau tai yn parhau i dyfu ar raddfa arswydus yng Nghymru ac o ganlyniad, mae nifer gynyddol o bobl yn wynebu trafferthion wrth geisio sefydlu cartref yn ei hardal leol. Mae’n hollbwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys i leddfu effaith yr argyfwng tai ar gymunedau Cymru Rhaid i’r llywodraeth hefyd wneud yn siwr fod digon o dai ar rent ar gael i leddfu’r broblem.’