Bu cynrychiolwr o gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys er mwyn sicrhau eu dyfodol.
Daeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.
Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch prynhawn yma (Mercher 3/8/05), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn tynnu sylw at enghraifft arall o agwedd ddi-hid Llywodraeth y Cynulliad tuag at ddyfodol ein cymunedau Cymraeg. Y pwnc trafod y tro hwn fydd yr argyfwng tai, sydd yn tanseilio rhagolygon cymaint o gymunedau ledled y wlad.
Rhoddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1 allan o 6 i lywodraeth y Cynulliad am y mesurau gyhoeddwyd ganddynt heddiw a fydd, fe obeithir, yn sicrhau mwy o dai fforddiadwy.
Dydd Mercher yma (Gorffennaf 6), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal lobi dros Ddeddf Eiddo yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn cyfarfod ffurfiol a drefnir yn un o ystafelloedd pwyllgor y Cynulliad, bydd y mudiad yn ceisio hybu trafodaeth ar gynnwys ei dogfen Deddf Eiddo – dogfen bolisi sy’n ceisio cynnig atebion i’r problemau tai difrifol sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau led led Cymru.
Fe ddaeth 200 o bobl i Rali a gynhaliwyd heddiw ar lan Llyn Celyn ger y Bala. Rhybuddiodd Siaradwyr yn ystod y Rali mai dyma yw ein cyfle ymarferol olaf i gynnal cymunedau Cymraeg hyfyw. Nodwyd os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020.
Heddiw ym Mhorthmadog, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ynglŷn â chynigion dogfen bolisi Deddf Eiddo’r mudiad. Dros y misoedd diwethaf, bu Grŵp Polisi Cymdeithas yr Iaith yn adolygu cynnwys y ddogfen gynhwysfawr hon – a argraffwyd gyntaf ym 1992 a’i ddiwygio ym 1999 – gan roi sylw i ddatblygiadau diweddar ym maes tai a chynllunio ar draws Prydain.
Mewn cyfarfod bore yma gydag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Ceredigion, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu galwad am sefydlu gweithgor arbennig er mwyn cynnal arolwg brys o sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngheredigion.
Am 11am bore yma (Llun 28.3.05), dringodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ben twr uchaf Castell Caernarfon, gan arddangos baner enfawr a oedd yn datgan ‘Deddf Eiddo – Tai i bobl leol’.