Dim cymuned Gymraeg erbyn y flwyddyn 2020

bawd_deddf_eiddo.jpgDaeth dros 200 o gefnogwyr i Rali ‘Dyfodol i’n Cymunedau’ Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y Maes yng Nghaernarfon heddiw. Yn ystod y Rali fe bwysleisiodd Huw Lewis (Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo) na fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020, os bydd y tueddiadau presenol yn parhau.

Ymhellach, pwysleisiwyd bod cyflwyno Deddf Eiddo i Gymru – mesur a fyddai’n sicrhau tai i Gymry ifanc yn eu cymunedau lleol – yn gam cyntaf hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hwn.Roedd Richard Parry Hughes – arweinydd Cyngor Gwynedd – ymhlith y bobl hynny a bu'n siarad yn y rali.08-rali-deddfeiddo-hyd05.jpgPwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiadMeddai Huw Lewis, Cadeirydd y Grwp Deddf Eiddo:"Mae ein cymunedau Cymraeg bellach o dan bwysau enfawr. Dros y blynyddoedd nesaf, gall cymunedau ledled Cymru golli llawer o’u hadnoddau pwysicaf – eu siopau lleol, eu hysgolion lleol ac wrth gwrs eu tai – gan adael y cymunedau hynny mewn sefyllfa cwbwl anghynaladwy. Heb weithredu cynhwysfawr yn y maes hwn, ni fydd modd sicrhau dyfodol i’n cymunedau Cymraeg.""Un o nodweddion amlycaf yr argyfwng sydd yn wynebu ein cymunedau yw methiant parhaol pobl leol i gael mynediad i’r farchnad dai. Nid yw hon yn broblem sy’n debygol o ddiflanu. ac felly mae angen i Lywodraeth y Cynulliad roiystyriaeth ddifrifol i’r angen i gyflwyno Deddf Eiddo i Gymru."Roedd y rali yn benllanw ar rai misoedd o weithgarwch. Dros yr haf, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn casglu enwau ar ddeiseb genedlaethol sy’n galw am Ddeddf Eiddo i Gymru ac fe fydd y gwaith o gasglu enwau ar y ddeiseb bwysig hon yn dod i ben dydd Sadwrn.Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad Dydd Mercher (Tachwedd 2). Bydd hyn yn digwydd ar yr un diwrnod ag y cynhelir trafodaeth ar ‘dai fforddadwy’ ym mhrif siambr y Cynulliad.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC Walesdyfodol-cymunedau.jpgMae recordiad byw o'r Rali ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.Mae'n dechrau gyda'r siaradwyr (Huw Lewis, Richard Parry Hughes, Angharad Tomos), ac wedyn rhai o ganeuon gan Mim Twm Llai yn chwarae'n fyw ar y Maes, gan gynnwys un cân newydd sbon sydd heb ei pherfformio o'r blaen!Pwyswch yma i wrando (mp3 - 40MB)