Chwifio baner o furiau Castell Caernarfon

Deddf Eiddo - Tai i bobl leol Am 11am bore yma (Llun 28.3.05), dringodd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ben twr uchaf Castell Caernarfon, gan arddangos baner enfawr a oedd yn datgan ‘Deddf Eiddo – Tai i bobl leol’.

Cyflawnwyd y weithred, er mwyn tynnu sylw y llu o bobl a oedd yn ymweld a Chaernarfon ar ddydd Llun y Pasg at ddifrifoldeb yr argyfwng tai sydd yn tanseilio cymunedau Cymraeg yr ardal. Maent yn bwriadu aros yno tan i'r castell gau am 4pm.Meddai Dafydd Tudur, un o’r protestwyr:"Gan ein bod bellach ar drothwy ymgyrch etholiadol, mae’n hollbwysig fod Cymdeithas yr Iaith yn gwthio yr argyfwng tai i frig yr agenda wleidyddol, gan sicrhau bod y mater yn cael ei drafod.""Credwn y byddai sicrhau Deddf Eiddo i Gymru yn fodd o leddfu effeithiau’r argyfwng tai, gan y byddai mesur o’r fath yn golygu bod pobl leol yn cael mynediad i'r farchnad dai, bod prisiau tai yn adlewyrchu'r farchnad leol, bod datblygiadau o dai yn adlewyrchu'r angen lleol a bod digon o dai ar rent."Ychwanegodd:"Mae safle Castell Caernarfon yn rhan o’n treftadaeth, ac am hynny fe wnaed ymdrech fawr dros y blynyddoedd i’w gynnal. Eto i gyd, gellid dadlau bod ein cymunedau Cymraeg yn cynrychiolu etifeddiaeth genedlaethol llawer pwysicach, ac o ganlyniad mae angen i’r Llywodraeth weithredu ar fyrder gan alw am Ddeddf Eiddo i Gymru." Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC WalesStori oddi ar wefan y Daily PostPwt bach oddi ar wefan y Western Mail (2il stori lawr)