Bu cynrychiolwr o gymunedau o wahanol rannau o Gymru yn ymweld â’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw i fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys er mwyn sicrhau eu dyfodol.
Ymhlith y cymunedau hynny a cafodd eu cynrychioli gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith, roedd ardaloedd megis; Crymych, Aberteifi, Llanfihangel-ar-Arth, Pontweli, Pontyberem, Bancffosfelen, Llanddarog, Dyffryn Banw, Dyffryn Dyfi a Llanuwchllyn.Pwyswch yma i weld mwy o luniauBwriad yr ymweliad hwn oedd i gyflwyno deiseb sy’n galw am Ddeddf Eiddo i’r Llywodraeth. Cafodd tua 10,00 o enwau eu casglu. Mae Deddf Eiddo yn fesur cynhwysfawr sy’n ymdrin a phob agwedd o’r argyfwng tai sy’n effeithio ar gymunedau ledled Cymru – boed hynny’n brisiau tai afresymol, diffyg darpariaeth o dai ar rent neu ddatblygiadau niweidiol. Yn nhyb Cymdeithas yr Iaith, mae’r math yma o fesur yn gwbwl hanfodol os ydym am sicrhau dyfodol hyfyw i’n cymunedau Cymraeg.Roedd y Gymdeithas yn gwerthfawrogi'n fawr iawn fod y tri prif wrthblaid wed danfon cynrychiolaeth i'w cwrdd. Danfonodd y Ceidwadwyr Mark Isherwood AC, y Rhyddfrydwyr Mick Bates AC, a Phlaid Cymru Leanne Wood AC, Owen John Thomas AC a Helen Mary Jones AC. Yn anffodus, ni ddanfonodd y Blaid Lafur unrhyw gynrychiolaeth, ond fe ddaeth gwas sifil i dderbyn y ddeiseb ar ran y Gweinidog Edwina Hart AC.Heb os, roedd cyflwyno’r ddeiseb hon, sy’n galw am Ddeddf Eiddo, yn ddigwyddiad amserol iawn, o ystyried y ffaith bod y Cynulliad hefyd yn cynnal dadl ar ‘dai fforddadwy’ yn y brif siambr am 2pm heddiw.Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith:"Mae ein cymunedau Cymraeg o dan bwysau enfawr. Dros y blynyddoedd nesaf, gall cymunedau ledled Cymru golli llawer o’u hadnoddau pwysicaf – eu siopau lleol, eu hysgolion lleol ac wrth gwrs eu tai – gan adael y cymunedau hynny mewn sefyllfa cwbwl anghynaladwy. Os bydd y tueddiadau presenol yn parhau, ni fydd yr un gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn y flwyddyn 2020.""Un o nodweddion amlycaf yr argyfwng sydd yn wynebu ein cymunedau yw methiant parhaol pobl leol i gael mynediad i’r farchnad dai. Nid yw hon yn broblem sy’n debygol o ddiflanu. ac felly mae angen i Lywodraeth y Cynulliad roi ystyriaeth ddifrifol i’r angen i gyflwyno Deddf Eiddo i Gymru. Dylai hynny gychwyn yn y drafodaeth ar ‘dai fforddadwy’ a gynhellir prynhawn yma."Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno ychydig ddyddiau wedi i Gymdeithas yr Iaith gynnal rali dors ddeddf Eiddo ar y Maes yng Nghaernarfon. Bryd hynny, daeth dros ddau gant o bobl ynghyd i ddangos cefnogaeth. Un o’r rhai a oedd yn cymeryd rhan yn y rali oedd Richard Parry Hughes, arweinydd Cyngor Gwynedd.Stori oddi ar wefan y Daily PostPwt oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd