Llafur yn gwrthod trafod argyfwng tai.

bawd_deddf_eiddo.jpg Dydd Mercher yma (Gorffennaf 6), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal lobi dros Ddeddf Eiddo yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mewn cyfarfod ffurfiol a drefnir yn un o ystafelloedd pwyllgor y Cynulliad, bydd y mudiad yn ceisio hybu trafodaeth ar gynnwys ei dogfen Deddf Eiddo – dogfen bolisi sy’n ceisio cynnig atebion i’r problemau tai difrifol sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau led led Cymru.

Eto i gyd, ar drothwy’r cyfarfod lobio, mae’r Gymdeithas wedi ei syfrdanu gan amharodrwydd Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth. Tra bod yr ymateb o bob un o’r pleidiau eraill wedi bod yn gymharol bositif, hyd yn hyn, nid yw dim un o’r Aelodau Cynulliad Llafur wedi cytuno i fynychu’r cyfarfod. Meddai Huw Lewis, ar ran grwp Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith:"Ar hyn o bryd, un o'r ffactorau amlycaf sydd yn tanseilio dyfodol cymunedau ledled Cymru yw'r argyfwng tai. O ganlyniad i brisiau eiddo afresymol a’r diffyg difrifol mewn darpariaeth o eiddo ar rent, mae unigiolion a theuluoedd yn eu miloedd yn colli'r cyfle i gael cartref yn eu cymunedau lleol.""Dyma broblem gymdeithasol ddifrifol, sydd bellach yn effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Yn sgil maint y broblem, mae galw am drafodaeth eang a chynhwysol sy'n rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r gwahanol atebion y gellid eu cynnig.""Yn wir, dylai’r ffaith fod y broblem yn cyfrannu’n sylweddol at sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg fod yn gymhelliad pellach i wleidyddion a gwneuthurwyr polisi i chwilio am atebion priodol.""Mae’r fath o ymateb gan yr Aelodau Cynulliad Llafur yn atgyfnerthu ymhellach y ddelwedd o blaid lywodraethol hunangyfiawn, sy’n amharod i drafod hyd yn oed rhai o’r problemau cymdeithasol mwyaf difrifol sydd yn wynebu Cymru heddiw."· Caiff y cyfarfod lobio Deddf Eiddo ei gynnal am 1pm ar ddydd Mercher, Gorffennaf 6 yn Ystafell Gynhadledd A yn y Cynulliad Cenedlaethol.· Caiff y cyfarfod ei drefnu mewn cydweithrediad gyda Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion.