Rhoddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1 allan o 6 i lywodraeth y Cynulliad am y mesurau gyhoeddwyd ganddynt heddiw a fydd, fe obeithir, yn sicrhau mwy o dai fforddiadwy.
Dywedodd Huw Lewis, sy'n arwain ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn falch o weld llywodraeth y Cynulliad yn cydnabod fod problem yn bodoli."Wythnos ar ôl i ni gynnal lobi yn y Cynulliad ar y pwnc tai yng Nghymru mae’n dda o beth fod y llywodraeth yn rhoi sylw i'r mater a godasom oleiaf, sef yr angen i wneud ymchwil i’r angen lleol am dai.""Er hynny ofnwn nad yw’r llywodraeth yn mynd at wreiddyn y broblem sef yr angen i gael rheolaeth dros y farchnad dai. Mae hyn yn dilyn trefn a osodwyd yn Glen Eagles yr wythnos ddiwethaf sef gwleidyddion yn cydnabod y broblem ond ddim yn gwneud digon i’w ateb."Cefndir6 Pwynt Deddf Eiddo Cymdeithas yr iaithPwyswch yma i ddarllen Llawlyfyr ymgynghorol Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.1 Asesu’r Angen Lleol2 Tai ac Eiddo i’w Rhentu3 Cymorth i Brynwyr Tro-Cyntaf a Deiliadaeth Hyblyg4 Blaenoriaeth i Bobl Leol5 Cynllunio i’r Gymuned6 Ailasesu Caniatâd CynllunioStori oddi ar wefan BBC Cymru'r BydStori oddi ar wefan BBC Wales