Protestio yn swyddfeydd y Llywodraeth er mwyn tynnu sylw at argyfwng tai

deddf_eiddo.gif Am 8:30am ar fore dydd Llun, 12 Gorffennaf 2004, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest y tu allan i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin.

Mae'r weithred hon yn rhan o gyfres o weithgareddau a gynhelir dros yr haf er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol fyddai'n lliniaru effaith y cynnydd mewn prisiau tai ar gymunedau Cymru trwy sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian a roi i'r Cynllun Cymorth Prynu. Sefydlu trefn fyddai'n sicrhau darpariaeth o dai ar rent i bobl sydd heb fynediad i'r farchnad dai ond yn dymuno byw yn eu hardal leol.Cynhaliwyd y brotest gyntaf yn adeiladau'r llywodraeth yng Nghaernarfon rai wythnosau yn ôl, a'r ail ar do swyddfeydd y llywodraeth yn Llandrillo-yn-Rhôs ddydd Iau diwethaf.Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal cyfarfodydd gyda nifer o Aelodau'r Cynulliad i drafod y materion hyn ac mae Edwina Hart y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn honni y bydd yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'n gofynion. Mae'r Gymdeithas hefyd yn dosbarthu cardiau post sy'n rhoi cyfle i bobl Cymru gyfrannu at yr ymgyrch trwy alw ar y Llywodraeth i gynnwys y camau uchod yn y Gyllideb a gyhoeddir ym mis Tachwedd.Dywedodd Menna Machreth, un o'r protestwyr:"Rhaid sicrhau bod gan bobl hawl i fyw yn eu hardal leol os am sicrhau dyfodol i gymunedau Cymru. Byddai rhoi arian digonol i'r Cynllun Cymorth Prynu a sefydlu'r hawl i rentu yn rhoi cyfle i brynwyr tro-cyntaf gystadlu yn y farchnad dai ac yn galluogi pobl sydd eisoes wedi eu cau allan o'r farchnad i rentu ty yn eu hardal leol os ydynt yn dymuno."Ychwanegodd Menna Machreth:"Mae prisiau tai yn parhau i dyfu ar raddfa arswydus yng Nghymru ac o ganlyniad, mae nifer gynyddol o bobl yn wynebu trafferthion wrth geisio sefydlu cartref yn ei hardal leol. Mae'n hollbwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys i leddfu effaith yr argyfwng tai ar gymunedau Cymru."