Ymateb i'r cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i adroddiad gyhoeddwyd ar y cyd yn y Sioe Amaethyddol gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg"Mae'n dda gennym weld cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynnig darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i denantiaid cymdeithasau tai, er nad oes llawer o fanylion wedi eu cyhoeddi ganddynt ar sut maent yn bwriadu diogelu a datblygu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghymru, sef ail elfen y cydweithio."

"A rhaid pwysleisio mai'r hyn sy'n bwysig os ydym am weld parhad cymunedau Cymraeg a Chymreig yw sicrhau fod pobol leol yn gallu cael mynediad i'r cartrefi o fewn cymunedau. Nid yw paratoi mwy o dai ar gyrion pentrefi yn ateb. Rhaid felly wneud defnydd o'r stoc dai sy'n bodoli eisoes. Mae'n bwysig hefyd fod pobol leol yn cael blaenoriaeth yn y farchnad dai bresennol.""Cred Cymdeithas yr iaith mai tipyn o jôc yw'r holl sôn sydd heddiw am 'dai fforddiadwy'. Yr hyn sy'n digwydd yw fod datblygwyr yn cael caniatâd i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai 'fforddiadwy' yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai 'fforddiadwy' hyn.""Dyna pam fod y Gymdeithas wedi dod i gredu mai rhan o'r ateb i sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Felly mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld symud tuag at sefydlu 'Hawl i Rentu'i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o 'Hawl i Brynu'. Dyna fydd thema protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg tu allan i Uned Llywodraeth y Cynulliad am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8 a chanolbwynt ein hymgyrchu yn y maes hwn o hyn ymlaen".1pm, Dydd Gwener, 8fed o AwstProtest: Hawl i Rentu!Uned Cymdeithas yr IaithEisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.