Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol. Sicrhaodd y cwmni fod y caniatad yn dal yn ddilys drwy dorri twll yn y clawdd a dadlau fod hyn yn dystiolaeth fod y gwaith adeiladu eisioes wedi cychwyn.
Ymhellach, maenr wedi comisiyn cwmni annibynol i wneud astudiaeth o'r effaith ar yr iaith o godi 19 ty yn unig, gan fod y caniatad eisioes wedi ei roi ar y 31 ty arall.Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith aydd yn byw ymMhont-Tyweli:"Mae hwn yn nonsens pir ac yn hollol annerbyniol; dylai'r astudiaeth iaith naill ai wedi astudio effaith codi 50 o dai newydd neu wedi cymharu beth fyddai effaith 31 ty gyda'r effaith bydd 50 ty yn ei gael. Roedd yr asesiad a wnaethpwyd yn wastraff amser ac aeian. Mae'n amherthnasol cymharu'r sefyllfa bresennol gyda 19 ty ychwanegol gan nad yw'r 31 arall wedi eu codi eto.""Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r caniatad cynllunio hwn ym mhentref Pont-Tyweli. Mae'n amlwg nad oes angen am 50 ty arall dros gyfnod o 3 mlynedd mewn pentref o 120 o dai. Gofidia'r pentrefwyr am yr effaith ar y gymuned ac ar yr iaith. Am y rheswm hwn fe gomisiynodd Cyngor Cymuned Llageler ei Astudiaeth eu hunain o'r effaith ar yr iaith gan yr Arbenigydd Iaith, Dylan Bryn Roberts - ac roedd eu gasgliadau ef yn wahanol iawn i'r asesiad a baratowyd gan Eatonfield gan ei fod yn asesu effaith 50 o dai yn hytrach nac 19.""Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus neithiwr (mercher) i drafod y camau nesaf yn yr ymgyrch i wrthwynebu'r datblygiad. Heno bydd gwylnos yn cael ei gynnal am 6.30pm ar y cae, gyda phentrefwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaitth yn bresennol i dynnu sylw at yr anghyfiawnder ac i wrthwynebu'r datblygiad."Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ysgrifennu at Eatonfield i fynnu eu bod yn trin y gymuned yn deg drwy gomisiynu astudiaeth iaith newydd o godi 50 ty newydd (potensial 150 o bobl ychwanegol). Mynodd y GYmdeithas hefyd y dylid trin y cais cynllunio fel cais newydd er mwyn galluogi'r swyddogion cynllunio i farnu'r angen heddiw am 50 o dai ychwanegol yn y pentref. Os na wnaiff Eatonfield gytuno bydd yn rhaid i'r Gymdeithas drefnu ymgyrch o weithredu uniongyrchol yn erbyn y cwmni. Mae'r GYmdeithas a'r pentrefwyr hefyd yn galw ar adran gynllunio'r Cyngor Sir i wrthod y cais cynllunio hwn.Cefndir:* Cyflwynwyd y cynlluniau dadleuol i godi 50 o dai dros 3 mlynedd ym mhentref bach Pont-Tyweli yn wreiddiol yn Rhagfyr 2006* Tynwyd y cynlluniau nol a'u hail gyflwyno yn Ebrill 07* Gwrthododd Adran Draffig y Cyngor Sir i argymell y cais ond wedi trafodaethau gyda Eatonfield a'u haddewid i greu cylchdro newydd ar y gyffordd gul ger tafarn yr Half Moon ym Mhont-Tyweli, rhoddwyd bendith ar y cynllun.* Ymddengys y caiff y cynlluniau eu trafod yn y pwyllgor Cynllunio ar Ragfyr 20ed