Cyfarfod Protest – Cyllidwch ein Cymunedau

deddf_eiddo.gif Am 2yh bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod protest er mwyn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i weithredu ar frys er mwyn lleddfu’r argyfwng tai. Gelwir arnynt i wneud hynny, trwy ddarparu cynnydd sylweddol yn y gyllideb tai, erbyn mis Tachwedd yma.

Erbyn mis Tachwedd dylai’r Llywodraeth:· ddarparu arian digonol ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu· sefydlu’r egwyddor o’r Hawl i RentuFel y rhybyddia Cymdeithas yr Iaith, ni fydd unrhyw gymuned naturiol Gymraeg ar ôl erbyn 2020, os ydy’r tueddiadau presennol yn parhau. Felly mae angen i’r Llywoadraeth i ymateb ar frys.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn lobio yn galed ers dwy flynedd i geisio cael llywodraeth y Cynulliad i wneud mwy i leddfu’r broblem dai yn ein cymunedau. Yr ydym wedi cynnal cyfarfodydd gyda gwleidyddion o bob plaid yn eu hetholaethau a lobio yn San Steffan a ‘r Cynulliad. Er mwyn tynnu sylw at y broblem bu i ni eleni feddiannu swyddfeydd y llywodraeth yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin a dringo i ben to swyddfeydd y llywodraeth yn Llandrillo.Un o’r aelodau Cynulliad sydd wedi bod yn fwyaf cefnogol i’n hymgyrch yw Leanne Wood aelod o’r Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac fe fydd hi yn siarad yn y gwrthdystiad heddiw.Drwy’r wythnos hefyd fe fydd tyrfaoedd ar Faes yr Eisteddfod wedi cael cyfle i arwyddo cerdyn post arbennig sydd wedi ei gyfeirio at Edwina Hart y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gofyn iddi hi weithredu ar frys drwy fynnu fod arian digonol yn cael ei neilltuo i leddfu’r broblem dai yn ein cymunedau.