Am 11 yb ar ddydd Sadwrn yr 24ain o Ionawr, meddiannwyd fflat yn natblygiad Doc Fictoria yng Nghaernarfon gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'r weithred symbolaidd hon yn rhan o'r ymgyrch dros ddyfodol cymunedau Cymraeg Cymru, a thros sefydlu'r Hawl i Rentu fel rhan o?r ateb i'r argyfwng sy'n wynebu'r cymunedau hynny. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad ac awdurdodau lleol i gyd-weithio er mwyn sicrhau cynnydd yn y nifer o dai ar rent sydd ar gael i bobl leol.
Dywedodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd,"Mae'r fflat yma yn Noc Fictoria yn enghraifft berffaith o eiddo lle gellid bod wedi datblygu tai fforddiadwy ar gael i bobl leol i'w rhentu, a'u galluogi i aros yng Nghaernarfon. Rydym wedi meddiannu?r fflat yma heddiw fel arwydd symbolaidd o hyn."Ychwanegodd,"Mae yna argyfwng yn wynebu cymunedau Cymraeg ar draws Cymru ar hyn o bryd, ac mae'n holl bwysig bod polisïau tai a chynllunio yn cael eu llunio gyda'r nod o alluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae angen cynyddu'r stoc o dai ar rent sydd ar gael, gan gynnwys tai addas i unigolion a theuluoedd. Gyda chyllid gan Lywodraeth y Cynulliad dylid sicrhau bod tai yn cael eu trosglwyddo i fod yn dai ar rent gan ddechrau gyda?r nifer fawr o dai gwag sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Mae angen i awdurdodau lleol seilio polisïau cynllunio ar asesiadau o'r angen lleol am dai."Dywedodd Hywel Griffiths, cadeirydd grŵp Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith,"Mae'r ffaith bod 60,000 o drigolion gogledd Cymru yn aros am dai cyngor yn dangos bod angen dybryd am dai ar rent. Mewn cymunedau lle y bu'r farchnad dai allan o gyrraedd pobl leol ers degawdau, ac mewn cyfnod lle mae'n gynyddol anodd i gael mynediad oherwydd y wasgfa gredyd, tai ar rent yw'r unig opsiwn realistig. Yn ogystal, mae angen sicrhau fformiwla deg er mwyn rhoi blaenoriaeth i bobl leol ar y tai yma, ac i ddod a'r farchnad yn raddol yn ôl dan reolaeth leol. Mae'n rhaid i gynrychiolwyr yn yr awdurdodau lleol, y Cynulliad a Llywodraeth San Steffan sylweddoli bod angen newid sylweddol mewn meddylfryd os yw'r iaith Gymraeg i barhau fel iaith gymunedol."Bydd Hywel Griffiths a Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyflwyniad i Gynhadledd Cefnogi Cymunedau Cymraeg yn y Gymru Wledig a drefnir gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg, dydd Llun y 26ain o Ionawr yng ngwesty?r Park Plaza yng Nghaerdydd.Lluniau: Rhys Llwyd ac Elinor Gray-Williams