Adloniant

Cymdeithas yn 50, Gruff Rhys i berfformio

Cerddor adnabyddus a phrif leisydd y Super Furry Animals, Gruff Rhys, yw'r artist cyntaf sydd wedi cadarnhau y bydd yn chwarae yng ngwyl arbennig, '50', i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Mercher, Awst 3) mewn lansiad o'r cynlluniau i ddathlu pen-blwydd y mudiad yn bumdeg ar faes yr Eisteddfod.Cynhelir yr wyl dros ddwy noson ym Mis Gorffennaf (13 a 14 o Orffennaf 2012) ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid y flwyddyn nesaf.

Gig Steddfod i helpu codi arian i glwb pêl-droed Wrecsam

gig-sadwrn-wrecsam-cym.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ffurfio partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth cefnogwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam i hyrwyddo gig i godi arian tuag at sicrhau dyfodol y clwb.Cynhelir y gig ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod (Awst 6) yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam, ac mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi y bydd hanner yr holl elw yn mynd at ymddiriedolaeth cefnog

Gig Deffro'r Ddraig yn uchafbwynt yr Eisteddfod

pol-wong2.jpgBydd Cymdeithas yr Iaith yn dathlu'r ffaith fod yr Eisteddfod yn ardal Wrecsam trwy drefnu digwyddiad cwbl unigryw ar y noson olaf (Sadwrn 6ed Awst), ar y cyd gyda'r grwp lleol "Deffro'r Ddraig".Bydd Band Cambria o wladgarwyr ardal Wrecsam yn gorymdeithio i mewn i Glwb Gorsaf Ganolog Wrecsam i gychwyn gig arbennig gyda blas lleol.

Seiclo i'r Steddfod dros gymunedau Cymraeg

robin-a-kali.jpgFe fydd dau ymgyrchydd iaith yn seiclo dros 70 milltir i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam i dynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, fydd yn seiclo o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod lle trafodir tynged y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod.

Undebau yn cefnogi gig gwrth-doriadau y Steddfod

gig-nos-iau-wrecsam-bach.jpgMae nifer o undebau llafur wedi cyhoeddi y byddant yn noddi gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y toriadau ar nos Iau'r Eisteddfod yn Wrecsam.Fe fydd undebau megis yr NUJ, BECTU, PCS, Undeb y Cerddorion, Undeb yr Ysgrifenwyr, Unsain Cymru ac RMT yn rhan o'r gweithgaredd ac yn annog eu haelodau i ddod i'r noson yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yn Wrecsam.Fe f

Teyrnged i'r Tywysog William a'i deulu yn y Steddfod Frenhinol

hywelffiaidd1.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gyhoeddi y bydd yn trefnu Noson o Deyrnged - ar ffurf Comedi a Cherddoriaeth - i'r Teulu Brenhinol ac i bawb sy'n ein llywodraethu o Lundain yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol.

Noson Heddwch yn ystod adloniant yr Eisteddfod

meic.jpgMae mudiadau heddwch yn annog pobl i ymuno a nhw mewn gig i gofio Hiroshima a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.Ar nos Wener 5 Awst, fe fydd munud o dawelwch am hanner nos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam i gofio' rheiny a fu farw 66 mlynedd yn ôl.

'Tyrrwch yn llu' i Wrecsam - Gruff Rhys

separado.jpgMae'r seren bop Gruff Rhys yn annog Eisteddfodwyr i gael blas ar ei ffilm lwyddiannus am Batagonia yn ystod yr ?yl yn Wrecsam eleni.Mae Separado!, sydd yn daith bersonol i Gruff Rhys, yn rhoi Patagonia mewn cyd-destun diwylliannol ehangach yn yr Ariannin, ac yn pellhau ei hun oddi wrth y ffordd ramantus o ffilmio'r Cymry ym Mhatagonia.Bydd y ffilm yn cael ei ddangos yn yr Orsaf Ganolog yn Wrecsam ar

Dathlu 50 mlynedd o Brotest a Roc Cymraeg

disgo-mici-plwm.jpgMae Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei DISCO TEITHIOL enwog yn ôl ar y ffordd - ar y cledrau a dweud y gwir ! - mewn Noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni.

Gigs Eisteddfod Wrecsam Cymdeithas

2gigs-steddfod-wrecsam-2011.jpgLansiodd un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru, Bryn Fôn, gigs Cymdeithas yr Iaith ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam heddiw (Dydd Gwener Mai 13) gan eu disgrifio fel y 'lein-yp mwyaf cyffrous ers blynyddoedd'.Mae'r gigs - a gynhelir ym mhrif glwb nos y gogledd, yr Orsaf Ganolog - yn dechrau ar Nos Sul gyda'r ffilm 'Separado!' a pherff