Adloniant

Brwydr y Bandiau yn cyrraedd ei uchafbwynt!

MattoidzBydd cyfle i weld pump o fandiau ifanc mwyaf addawol Cymru ar nos Fawrth yr Eisteddfod pan fydd ffeinal Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal yng nghlwb nos Amser ym Mangor. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

DJ Andy Votel yn perfformio i Gymdeithas yr Iaith!

andy_votel.jpgMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn falch o gyhoeddi y bydd y DJ enwog o Fanceinion Andy Votel yn perfformio yn eu gig yn Amser, Bangor ar nos Fercher yr Eisteddfod eleni. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

13 yn Rif Lwcus i Ffans Anweledig

Anweledig Fel arfer mae’r rhif 13 yn cael ei ystyried yn anlwcus ond i’r gwrthwyneb fydd hi i ddilynwyr y band Anweledig yn gig Cymdeithas yr Iaith ym Mangor ar nos Iau yr Eisteddfod eleni. Gwefan Gigs Steddfod Cymdeithas yr Iaith

Tocynau Wythnos Gigs Steddfod Ar Werth Rwan!

gigs_steddfod_logo-bach.jpg Mae nifer cyfyngedig o docynau wythnos ar gyfer Gigs Steddfod Genedlaethol Eryri Cymdeithas yr Iaith rwan ar werth o wefan y Gymdeithas - www.cymdeithas.com/steddfod

Adolygiadau o Gigs y Gymdeithas yn Steddfod Casnewyd 2004

Mattoidz Diolch yn fawr iawn i lowri Johnston a Gwefan BBC Cymru'r Byd am adolygu nifer o gigs y Gymdethas yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ceir y dolenni at yr holl adolygiadau yma.

Parti lansio EP Anweledig

Anweledig Bydd gig mwyaf calendr y sin roc Gymraeg yn dod a digwyddiadau’r Eisteddfod i ben eleni wrth i fand mwyf poblogaidd Cymru ryddhau eu EP newydd ar nos Sadwrn olaf Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Bydd Anweledig yn cynnal Parti Lansio eu CD diweddaraf, Byw, yng Nghlwb Pont Ebwy, sef prif ganolfan gigs Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y ‘Steddfod!

Tren bach y sgwarnogod yn dychwelyd i Gasnewydd

bob_delyn.JPG Unwaith eto eleni, mae Cymdeithas ir Iaith wedi sicrhau fod gwledd o gerddoriaeth fyw Gymraeg ar gael bob noson o’r wythnos, gyda nosweithiau ar y gweill a fydd yn aros yn y cof am flynyddoedd i ddod.

Gig Nos Lun y ‘Steddfod: ‘Colli Tir, Colli Iaith’

Heather Jones Bydd cychwyn trawiadol i adloniant Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda'r gig Nos Lun "Colli Tir - Colli Iaith" yng nghlwb Pont Ebwy sydd o fewn 10 munud o gerdded i'r Maes Ieuenctid a 3 munud o'r Maes Carafannau.