Adloniant

Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau 2006

gloriaarcreionspiws.jpg Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd rhagbrofion ledled Cymru, ac erbyn hyn gellir cyhoeddi’r 4 band fydd yn brwydro am deitl grwp ifanc gorau Cymru. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y ffeinal yw Gloria a’r Creiond Piws (enillwyr rhagbrawf Llyn), Zootechnics (enillwyr rhagbrawf Caernarfon), Amlder (enillwyr rhagbrawf Caerfyrddin), ac yn olaf Eusebio (enillwyr rhagbrawf Crymych).

Dathlu 20 Mlynedd o Hip-hop Cymraeg

Dull Di-draisBydd nos Iau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe eleni yn ddathliad o gerddoriaeth hip-hop Cymraeg wrth i'r arloeswyr yn y maes, Llwybr Llaethog, berfformio set arbennig yng Nghlwb Barons i ddathlu 20 mlynedd ers iddyn nhw ryddhau'r deunydd rap cyntaf yn yr iaith.

Euros Childs yn un o brif atyniadau Gigs yr Eisteddfod

Euros ChildsBydd cyn aelod y band Gorkys Zygotic Mynci, Euros Childs, yn perfformio yng nghlwb Barons yn Abertawe ar nos Fawrth 8fed Awst fel rhan o wythnos o gigs gwych fydd yn cael eu cynnal yno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Brwydr y Bandiau 2006

gigs-steddfod-abertawe.jpgBydd cyfle i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg weld talentau’r dyfodol wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal rhagbrofion cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 dros y bythefnos nesaf.

5 am 5 ym Mar 5! - Cymdeithas yn cyhoeddi ychwanegiadau i Lineups y 'Steddfod

gigs-steddfod-abertawe.jpgBydd cyfle i fynychwyr gigs yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe weld hyd yn oed mwy o fandiau'n perfformio yn y brifwyl eleni. I gyd-fynd â hyn bydd y thema '5' yn amlwg iawn hefyd wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi y bydd 5 band yn perfformio am 5 noson yn eu canolfan Bar 5 yng nghanol Abertawe.

Rhywbeth at Ddant pawb yn gigs ‘Steddfod 2006

gigs-steddfod-abertawe.jpgFel arfer, bydd amrywiaeth eang o artistiaid cerddorol yn diddanu eisteddfodwyr Abertawe eleni, wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi eu lineups cyffrous ar gyfer yr wythnos.Bydd y Gymdeithas, a enillodd wobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn, Gwobrau RAP C2' am ei gigs yn Eisteddfod 2005, yn defnyddio dwy ganolfan yn ystod yr wythnos, eleni.

Gigs Steddfod Abertawe 2006

gigs-steddfod-abertawe.jpgEr bod rhai misoedd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, mae bwrlwm digwyddiadau adloniant yr wythnos eisoes wedi dechrau wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi lleoliadau eu gigs.Fel arfer, mewn cyd-weithrediad â phobl leol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal wythnos llawn o gigs yn ystod yr Eisteddfod eleni, a hynny yn nwy o ganolfannau gorau yr ardal.

Llongyfarchiadau i'r grwp adloniant

logo_adloniant_tafod.jpgLlongyfarchiadau mawr iawn i Owain Schiavone a gweddill grwp adloniant Cymdeithas yr Iaith, trefnwyr gigs 'Steddfod 2005 y Gymdeithas yn Eryri y llynedd, am ennill gwobr 'Digwyddiad Byw y Flwyddyn' yng ngwobrau RAP 2006 dros y penwythnos.

Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith 2006

logo_adloniant_tafod.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, prif drefnwyr gigiau Cymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 gyda’r ffeinal i’w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe fis Awst, a’r pecyn gwobrau gorau eto i’r enillwyr lwcus.

GIG: Cymraeg yn Hanfodol

29.12.05gig_bach.jpgeusebio.JPGcigars.JPGcoda.JPGjava.JPGjava1.JPG