Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau 2006

gloriaarcreionspiws.jpg Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd rhagbrofion ledled Cymru, ac erbyn hyn gellir cyhoeddi’r 4 band fydd yn brwydro am deitl grwp ifanc gorau Cymru. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y ffeinal yw Gloria a’r Creiond Piws (enillwyr rhagbrawf Llyn), Zootechnics (enillwyr rhagbrawf Caernarfon), Amlder (enillwyr rhagbrawf Caerfyrddin), ac yn olaf Eusebio (enillwyr rhagbrawf Crymych).

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn cynnal y gystadleuaeth ers i Mattoidz ennill y wobr yn 2002. Trefnydd rhagbrofion y Gogledd oedd Dewi Snelson ac mae’n credu fod y gystadleuaeth yn gwella pob blwyddyn:"mae safon y gystadleuaeth wedi bod yn aruthrol o uchel eleni. Mae’n grêt gweld yr holl fandiau ifanc da yma’n dod i’r golwg ac mae’r gystadleuaeth hon yn ffordd dda o roi hwb iddynt."Cynhelir rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng nghlwb Barons Abertawe nos Lun 7fed Awst.Yn beirniadu’r rownd derfynol eleni fydd Ian Cottrell (Pop Factory), Esyllt Williams (Ciwdod) a Huw Stephens (Radio Cymru a Radio 1) ac mae’n argoeli i fod yn benderfyniad caled iddynt wedi i’r pedwar band greu argraff yn eu rhagbrofion.Yn dilyn y gystadleuaeth bydd setiau gan un o’r bandiau a ddarganfu yng nghystadleuaeth 2005, Tangwystl, yn ogystal ag un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Sibrydion. Mae’r noson yn dechrau am 8:00 gyda thocynnau ar werth ymlaen llaw o Dŷ Tawe ac ar uned y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod.