Yn ystod y flwyddyn pryd y cyhoeddwyd araith "Tynged yr Iaith 2 - Dyfodol ein Cymunedau", mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd y gigs a gynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn rhan o ymgyrchoedd gweithredu cymunedol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei bod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf newydd Cymru sy'n digwydd yng Nghaerfyrddin y penwythnos hwn. Cynhelir Gwyl Macs ar faes y Sioe Nant y Ci ger Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 1/9 a Dydd Sul 2/9.
Aeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.
Radio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a’r Band, Brigyn…. Dim ond rai o’r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni.
Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i’w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr Huw hefyd yn ymuno â nhw wrth iddynt ymweld â phob cwr o Gymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2007 gyda’r ffeinal i’w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug fis Awst, a phecyn gworbrau gwych fel arfer i’r enillwyr. Nôd y gystadleuaeth yw dod o hyd i a rhoi llwyfan i dalentau newydd Cymraeg a rhoi hwb ymlaen iddynt fod yn llwyddianus yn y Sin Roc Gymraeg am flynyddoedd i ddod.
Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn i allu cyhoeddi mae'r Ffyrc fydd y prif fand i berfformio ar y Daith Tafod cyntaf. Mae'n argoeli'n dipyn o sioe hefyd gan y bydd Kentucky AFC ac enillwyr Brwydr y Bandiau 2006, Amlder, yn cefnogi.
Mae Radio 1 wedi datgan mai 12 Hydref yw dyddiad Diwrnod John Peel eleni. Ledled y byd, bydd gigs a digwyddiadau cerddorol yn cymryd lle, i gofio am y dyn a wnaeth gymaint dros gerddoriaeth amgen. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â nhw gan gynnal noson arbennig yn y Greeks ym Mangor Uchaf.