Dafydd Iwan yn dod yn ôl at ei Wreiddiau

dafydd_iwan.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu wythnos lawn o weithgarwch gyda'r nos ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala. Ond fe fydd y tair noson gyntaf (gynhelir ym Maes Tafod wrth ymyl y Ganolfan Hamdden), tra'n apelio at bawb yn sicr o apelio yn arbennig at yr Eisteddfodwyr hynny sy'n cofio'r Blew a 'Maes B' yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1967.Fe gafodd Dafydd Iwan ganu yn y Pafiliwn mewn cyngerdd gyda'r nos yn yr Eisteddfod honno ac roedd hynny'n chwyldroadol ar y pryd a 'Chân yr Ysgol' yn dal yn gymharol newydd Fe fydd yn bleser cael croesawu Dafydd yn ôl i Eisteddfod y Bala eleni. Ef fydd y prif atyniad ar nos Sadwrn cyntaf yr ?yl, ac mae hynny yn gwbwl briodol gan fod gwreiddiau Dafydd yn Llanuwchllyn.Ddeugain mlynedd union yn ôl yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969 ac yntau yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y pryd, roedd Dafydd Iwan yng nghanol un o stormydd gwleidyddol mwyaf ei fywyd gan ei fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch peintio arwyddion ac yn arwain yr ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo. Mae rhywun yn gobeithio y caiff Eisteddfod dawelach yn y Bala eleni. Yn ei gefnogi ar y noson mae Lowri Evans a Candelas a'r compare fydd Dilwyn Morgan.

Meic Stevens, hen ffefryn arall, fydd y prif atyniad nos Sul. Pan oedd o yn canu efo'r Bara Menyn y daeth y gân 'Mynd i'r Bala mewn Cwch Banana' yn enwog am y tro cyntaf. Bydd Heather Jones, un arall o driawd y Bara Menyn yn canu ar y noson hefyd. Cymysgedd o gerddoriaeth werin fodern a churiadau electronig ceir gan y band arall fydd yn chwarae ar y nos Sul, sef Brigyn.O'i gymharu a'r ddau uchod, nid yw Geraint Løvgreen ond glaslanc, ond mae o o bosib wedi canu yn amlach ar lwyfannau'r Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol nac odid unrhyw artist arall a mawr fydd croeso Pabell Tafod iddo ar y Lun. Yn cefnogi Geraint bydd Mattoidz, Gwyneth Glyn, Gwilym Morus a Pala, band ifanc o ardal y Bala.Ar ôl gigio'n galed am dair noson efallai na fydd gan y pyntars h?n egni ar ôl am weddill yr wythnos ac y byddan nhw yn ildio eu lle i genhedlaeth iau. Ond does ond gobeithio na fydd ganddyn nhw ychydig o wynt yn weddill i ddod i Ffair y Bala ar y dydd Sadwrn olaf pan fydd deuddeg a mwy o artistiaid yn canu o ddeuddeg o'r gloch y prynhawn hyd at un o'r gloch y bore. Rhywsut mae rhywun yn synhwyro na fyddwn ni am weld Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn dod i ben!Manylion llawn gigs Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod y Bala 2009