Lansio Brwydr y Bandiau 2007

Taith TafodMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi cyhoeddi cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2007 gyda’r ffeinal i’w chynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug fis Awst, a phecyn gworbrau gwych fel arfer i’r enillwyr. Nôd y gystadleuaeth yw dod o hyd i a rhoi llwyfan i dalentau newydd Cymraeg a rhoi hwb ymlaen iddynt fod yn llwyddianus yn y Sin Roc Gymraeg am flynyddoedd i ddod. Pwyswch yma i lawrlwytho y ffurflen gofrestru

Yn hyn o beth mae Brwydr y Bandiau wedi bod yn hynod effeithiol yn y gorffennol gyda Java a Pala – cyd-enillwyr yng Nghasnewydd 2004, a’r Derwyddon – buddugwyr 2005 , wedi parhau i gigio’n gyson ers eu llwyddiant tra fo Mattoidz – ennillwyr Eisteddfod Ty Ddewi 2002 bellach yn un o fandiau amlycaf a mwyaf poblogaidd Cymru.Er mai bandiau ifanc sydd yn draddodiadol wedi cystadlu mae’r gystadleuaeth yn agored i bob oedran. Yr unig amodau yw fod y band yn gallu cynnal set 15 munud o ganeuon Cymraeg gwreiddiol ac nad ydynt eisioes wedi recordio unrhyw gynyrch. Ni all band ychwaith gystadlu os wnaethant ymddangos yn ffeinal llynedd, er fod croeso i rai na aeth ym mhellach na’r rhagbrofion gystadlu eto.Bydd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 yn cael cyfle i:• Chwarae ar Sadwrn ola'r Steddfod Genedlaethol, gan gefnogi rhai o brif fandiau Cymru• Recordio sesiwn ar gyfer C2 ar Radio Cymru• Cyfres o gigs wedi'u trefnu gan Gymdeithas yr iaith mewn gwahanol rannau o Gymru• Ymddangos ar Bandit ar S4CMeddai Aled Elwyn Jones, Trefnydd Adloniaint Eisteddfod y Gymdeithas:"Un o’r problemau mwyaf sy’n wynebu bandiau ifanc – ac mae yna ddigonedd ohonyn nhw ledled Cymru– ydi gwneud y ‘break-though’ cynta: y gig cynta a’r recordiad cynta. A dyna ydi pwrpas Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith sef rhoi’r cyfle yna i fandiau newydd berfformio ar lwyfan, nid yn unig yn yr Eisteddfod ei hun ond yn ystod y flwyddyn wedyn.""Ac wrth gwrs mae’r cyfle i recordio eu deunydd yn rhywbeth y mae pob band sy’n dechrau allan yn breuddwydio amdano a rydan ni yn falch iawn o allu gwireddu hyn ac wrth gwrs ychwanegu at gryfder y Sin Roc Gymraeg yr un pryd. Bandiau ifanc ydi dyfodol cerddoriaeth Gymraeg wedi’r cyfan, a busawn i’n annog unrhywun sydd mewn band i roi cynnig ar y gystadleuaeth."Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ydi Mawrth 31ain 2007. Dylai bandiau sydd am gystadlu ddanfon ‘demo’ syml ynghyd a ffurflen gofrestru i Gwenno Teifi, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Pen Roc, Rhodfa’r Mor, Aberystwyth SY23 2AZ.Pwyswch yma i lawrlwytho y ffurflen gofrestruposterbyb07_gwefan.jpg