Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y LlywodraethCafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.Cyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn wrth Gynghorwyr Sir a'r gynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau mewn cyfarfod arbennig i drafod sut i greu Cymuned Gymraeg Gynaliadwy. Bu Carl Clowes yn sôn sut y llwyddodd Antur Aelhaearn i osod yr hinsawdd briodol ar gyfer adfywio cymuned Gymraeg. Esboniodd Ffred Ffransis am gynllun newydd, Cynllun Adfywio Cymunedol, sy'n cael ei ffurfio ar hyn o bryd wrth i Gymdeithas yr Iaith gydweithio â chymunedau Penllyn. Amcan y cynllun yw i gymuned grymuso ei hun drwy gynllunio dros eu cymuned, gan fedru defnyddio'r cynllun fel arf i allu ymateb yn holistig i ddatblygiadau neu fygythiadau i'r gymuned. Bu ymatebion cadarnhaol gan Dylan Edwards (Cynghorydd Lleol) a Dyfed Edwards (Arweinydd Cyngor Gwynedd) a'r gynulleidfa o dros 100 o bobl, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn gobeithio y bydd cymunedau eraill â diddordeb i gydweithio ar gynllun tebyg. Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd grwp ymgyrch Cymunedau Rhydd Cymdeithas yr Iaith:'Yn y cyfarfod hwn roeddwn yn edrych am ffyrdd o rymuso a sbarduno ein cymunedau lleol fel eu bod yn eu hadfywio eu hunain a hynny oddi mewn i ganllawiau y Cynlluniau Datblygu Lleol.'Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiadProtest 'Mae'r amser yn dod i Ben...' Pwerau llawn dros y Gymraeg i Gymru.Roedd 200 o bobl wedi ymuno â Chymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod i rybuddio Llywodraeth y Cynulliad fod yr amser yn prinhau i fedru trosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg cyn yr etholiad nesaf. Rhybuddiwyd fod y Gweinidog Treftadaeth yn euog o beidio gwneud mwy i sicrhau Gorchymyn mwy eang, a'r Ysgrfenydd Gwladol yn euog o rwystro taith y Gorchymyn.Fe wnaeth degau o fynychwyr y brotest weithredu'n uniongyrchol ar faes yr Eisteddfod, drwy osod sticeri ar stondin Llywodraeth y Cynulliad. Roedd y sticeri yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg. Bu Sian Howys yn siarad tu allan i stondin y Llywodraeth:'Yr her i'r Gweinidog Treftadaeth yw i ddeddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb. Os ydym ni eisiau gweld mwy o hawliau i'r Gymraeg, rhaid i ni eu enwi nhw, eu cywilyddio nhw a'u herio nhw bob gam o'r ffordd.'Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiad.Cynllunio logo y Coleg Ffederal ar Faes yr EisteddfodAr Ddydd Llun 3ydd Awst, roedd Cymdeithas yr Iaith yn lansio cystadleuaeth logo ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg y mae Llywodraeth y Cynulliad yn dweud eu bod yn y broses o'i sefydlu. Bydd Angharad Tomos - cartwnydd ac aelod blaenllaw o'r Gymdeithas - yn bresennol yn uned y Gymdeithas ar y maes i gynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr y dyfodol ar lunio logo. Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:'Er mwyn cynyddu'r ymwybyddiaeth fod y Coleg ar fin dod o'r diwedd, rydym yn trefnu'r gystadleuaeth logo ar gyfer y sefydliad nwydd, gan wahodd pobl i alw yn ein huned ar Faes yr Eisteddfod trwy'r wythnos i lunio cynigion.'