Seiclo dros y Gymraeg, lansiad siarter

Fe gyrhaeddodd dau ymgyrchydd iaith faes yr Eisteddfod heddiw (Dydd Mawrth Awst 2) ar ol seiclo dros 70 milltir er mwyn tynnu sylw at y peryglon i gymunedau Cymraeg eu hiaith.kali-robin-020811.jpgSeiclodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Crag a Kali Stuart, o'u cartref yn Nebo yng Ngwynedd draw i gyfarfod 'Lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ar faes yr Eisteddfod. Ar eu siwrnai ymwelon nhw â nifer o gymunedau gan gynnwys y Parc yng Ngwynedd.Yn annerch y cyfarfod ar Faes yr Eisteddfod, yr oedd nifer o gynrychiolwyr cymunedol, gan gynnwys Nia Lloyd o ymgyrch Deffro'r Ddraig, Wrecsam a Gwenno Puw o ymgyrch Ysgol y Parc, ger y Bala, yn ogystal â'r Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, Llyr Huws Griffiths. Yn siarad ar ôl cyrraedd yr Eisteddfod, dywedodd Robin Crag:"Mae dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol o dan fygythiad mawr, ac mae angen tynnu mwy o sylw at y potensial i warchod a chreu cymunedau Cymraeg Cynaliadwy. Mae nifer o ffactorau yn milwrio yn erbyn y Gymraeg yn ein cymunedau. Mae bygythiadau i ysgolion cymunedol, ac mae ideoleg y Llywodraeth San Steffan yn annog i bobl ifanc symud i ffwrdd o'u cymunedau i chwilio am waith yn cyfrannu at yr her. Dyn ni wedi beicio i'r Eisteddfod trwy nifer o gymunedau gwahanol, am fy mod i'n credu y gall bob cymuned yng Nghymru fod yn un gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ieithyddol."Ychwanegodd Hywel Griffiths, llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Yn gynharach eleni cyhoeddwyd darlith 'Tynged yr Iaith 2 sydd yn amlinellu'r her newydd i'r Gymraeg yn y degawdau i ddod. Bron i hanner canrif yn ôl ysbrydolodd darlith Tynged yr Iaith weithredu chwyldroadol sydd wedi sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg. Er hynny, mae'n debyg y bydd canlyniadau'r cyfrifiad eleni yn dangos dirywiad mawr yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau. Byddwn yn lansio Siarter Tynged yr Iaith: Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy a gobeithiwn yn gosod sylfaen ar gyfer mynd i'r afael a'r broblem hon.""Mae'r siarter yn pwysleisio fod gan bob cymuned yng Nghymru'r botensial i fod yn gymuned Gymraeg. Mae gyda ni, yn y Gymdeithas, weledigaeth dros gymunedau cynaliadwy ym mhob ystyr y gair yn economaidd, amgylcheddol ac yn ieithyddol."Fe fydd y ddau seiclwr hefyd yn mynd draw i gyflwyno'r siarter i Bryn Fôn a'r Band Al Lewis a Daniel Lloyd a fydd yn perfformio yn yr Orsaf Ganolog (Central Station) yng nghanol dref Wrecsam heno (8pm, Nos Fawrth, Awst 2).