"Mae'r Gymraeg yn iaith estron" yng Nghymru dywed Focus

Ble mae'r Gymraeg?Fe ddywedodd un o weithwyr cangen Caerfyrddin o Focus ddoe 08/01/08, mai iaith estron yw'r Iaith Gymraeg, yng Nghymru a'i fod yn amharchus gofyn cwestiwn trwy gyfrwng y Gymraeg! Cred Cymdeithas yr Iaith fod yr anwybodaeth yma yn amlygu'r diffyg hyfforddiant a gynigir gan gwmiau mawrion i'w staff ynghylch Cymru a'r iaith Gymraeg.

Dywed Hedd Gwynfor is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Doedd gan yr aelod yma o staff ddim syniad o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg i bobl Sir Gâr. Pan ofynnwyd cwestiwn iddo yn Gymraeg, fe wnaeth y datganiad anhygoel fod y Gymraeg yn iaith estron, yng Nghaerfyrddin!""Mae ei sylwadau yn dystiolaeth glir o'r angen am Ddeddf Iaith newydd gynhwysfawr a fyddai'n cynnwys hyfforddiant i aelodau o staff cwmniau mawrion fel na fyddai agwedd tebyg yn codi. Yn yr achos yma, roedd y gwr wedi symud i Gymru ac i'r ardal gyda'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg. Roedd yn amlwg nad oedd ganddo unrhyw syniad o hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal lle roedd wedi symud iddi, ond eto i gyd roedd disgwyl iddo ddelio gyda'r bobl leol yn ddyddiol."