Caerfyrddin Penfro

Ymateb i ddatganiad Cyngor Sir Gâr yngl?n â ysgolion Llangain, Bancffosfelen and Llanedi

logocyngorsirgar.jpgDywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin a rhiant yn Ysgol Bancffosfelen:"Rydym yn barod i dderbyn gair Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir eu bod yn barod i roi cyfle i ysgolion Llan-gain, Bancffosfelen a Llanedi i barhau i wasanaethu eu cymunedau.

Llwyddiant Cymuned Waungilwen

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gar am gefnogi cymuned Waungilwen, Drefach Felindre a gwrthwynebu argymhelliad y swyddogion cynllunio i ganiatau datblygiad o 13 o dai yn y pentref. Mewn cyfarfod o'r pwyllgor cynllunio ddoe 23/11/10 fe siaradodd aelodau o gymuned Waungilwen a'r cynghorydd sir leol John Crossley yn gryf yn erbyn y cais yma a fyddai'n cael effaith mor niweidiol ar iaith a diwylliant y gymuned fach glos yma. Hefyd yn siarad roedd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith a Chynghorydd Cymuned yn ward Llangeler.

Diffyg hawliau yn y Mesur Iaith - protestwyr yn targedu banciau

bank-closed.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi dechrau ymgyrch yn erbyn banciau heddiw (Dydd Sadwrn Tachwedd 13) mewn ymdrech i sicrhau hawliau i'r Gymraeg yn y Mesur Iaith.Er mwyn tynnu sylw'r Llywodraeth at y ffaith na fydd mesur iaith arfaethedig y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wasanaethau Cymraeg yn y sector breifat mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol rannau o'r sector breifat, g

Digon yw Digon - Cyngor Sir Caerfyrddin

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am brotest o flaen cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu addysg Cyngor Sir Gar i ddangos fod pobl y sir wedi cael digon o agwedd negyddol y Cyngor tuag at ysgolion a chymunedau pentrefol Cymraeg.

Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Ceredigion i wrthwynebu symud stiwdio Radio Ceredigion i Arberth

radio-ceredigion.gifMae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group.

Debbie's Coming to Town! Caerfyrddin

Fe fydd Debbie (ar ran y cwmni Debenhams) yn dod i Gaerfyrddin yfory, dydd Mercher 17eg o Chwefror, cyn agoriad swyddogol ei siop fawr crand yn y pasg.

Gwir Neges Superdrug a Boots

PicedSuperdrug3.jpgFe fydd siopwyr Caerfyrddin yn derbyn taflenni yn datgelu gwir agwedd cwmni Superdrug at yr iaith Gymraeg heddiw 26/11.

Holiaduron Addysg Cyngor Sir yn Ddi-ystyr

sionedelin.jpgCred Cymdeithas yr Iaith bod holiadur a anfonwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin at rieni yng Nghwm Gwendraeth yn gamarweiniol ac o'r herwydd bydd y canlyniadau'n ddi-ystyr.

Ymgyrchydd iaith yn galw am drosglwyddo pob grym deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad

Deuddydd cyn bod Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiad am y Gorchymyn Iaith i Lywodraeth y Cynulliad, fe ryddhawyd Ffred Ffransis o Garchar y Parc (ger Pen-y-bont) heddiw.

Mae'r frwydr dros Fesur Iaith yn parhau y tu mewn i garchar y Parc

Dedfrydwyd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis i 5 diwrnod o garchar gan ynadon Llanelli ddydd Llun ac fe'i cludwyd i garchar Parc, Pen-y-bont. Roedd ei garchariad yn dilyn ei ran yn ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Fesur Iaith cynhwysfawr newydd a fyddai'n cynnwys y sector breifat.Mewn sgwrs ffôn gyda'i wraig Meinir Ffransis heddiw, ddydd Mawrth, dywedodd Ffred nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn Gymraeg yng ngharchar Parc. Nid oes unrhyw ffurflenni nac arwyddion Cymraeg na dwyieithog, ac nid oes hyd yn oed Beibl Cymraeg ar gael yno.