Ymgyrchydd iaith yn galw am drosglwyddo pob grym deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad

Deuddydd cyn bod Pwyllgor Deddfwriaethol Rhif 5 y Cynulliad Cenedlaethol yn cyflwyno adroddiad am y Gorchymyn Iaith i Lywodraeth y Cynulliad, fe ryddhawyd Ffred Ffransis o Garchar y Parc (ger Pen-y-bont) heddiw. Yn wyneb ei brofiad yn ceisio cael gwasanaeth Cymraeg yn y carchar preifat hwn, galwodd Mr Ffransis ar y Pwyllgor Craffu fory i fynnu fod POB grym deddfu ym maes y Gymraeg yn cael ei datganoli'n llawn heb unrhyw gyfyngiadau i'r Cynulliad trwy'r Gorchymyn presennol.Dywedodd Ffred Ffransis:"Mae'r anhawster i gael unrhyw ffurflenni na gwasanaeth Cymraeg tu fewn i Garchar y Parc yn dangos yn eglur mor wirion yw ceisio llunio Gorchymyn Iaith cymhleth sy'n ceisio cynnwys rhannau cyfyngedig iawn o'r sector preifat. Mae'r carchar hwn yn cael ei drefnu gan gwmni preifat ond ar gyfer y sector cyhoeddus. Byddai ei statws yn aneglur tan y ddeddf, ac un ymhlith miloedd o enghreifftiau o gymhlethdodau potensial yw hyn. Mae'n gwbl amlwg mai'r ateb syml yw trosglwyddo POB hawl deddfu am y Gymraeg i'r Cynulliad trwy'r Gorchymyn Iaith. Wedyn fe ellir cael y ddadl ddemocrataidd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am sut i ddefnyddio'r hawliau hyn. Galwn ar y Pwyllgor Craffu i gyhoeddi hyn yn syml fory."

Ffred Ffrancis: all legislative powers for Welsh should be transferred to National Assembly - Eurolang.com - 05/06/09