Fe fydd siopwyr Caerfyrddin yn derbyn taflenni yn datgelu gwir agwedd cwmni Superdrug at yr iaith Gymraeg heddiw 26/11. Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn dosbarthu taflenni tu allan i'r siop am 4pm gyda'r geiriau: "Superdrug - Cwmni Harddwch ag iechyd gyda agwedd Salw ac afiach at yr iaith Gymraeg".Fe fydd aelodau o'r Gymdeithas hefyd yn picedi tu allan i siop Boots yn Llandysul dydd Llun 30ain o Dachwedd am 1pm gan ddosbarthu cardiau 'Mantais' Boots amgen am ddim tu allan i'r siop. Yn troi slogan Boots ar ei phen, bydd yr ysgrifen ar y cardiau yn darllen "there are no points whatsoever for using Welsh".Mae'r picedi wedi eu trefnu mewn cefnogaeth i Osian Jones a gafodd ei ddedfrydu i 28 diwrnod yn y carchar ddoe (25/11/09) am weithredu yn erbyn siopau Boots, Superdrug, Matalan a PC World yng ngogledd Cymru ym mis Ebrill 2008, oherwydd eu diffyg darpariaeth Cymraeg.
Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r Gymdeithas wedi trio perswadio cwmniau Superdrug a Boots ac amryw eraill i ddarparu gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg ers blynyddoedd, ond heb lwyddiant. Maent yn anwybyddu barn y cyhoedd sydd yn cefnogi gwasanaethau dwyieithog: mae 76% o'r cyhoedd yn cytuno bod deunydd marchnata a hysbysebion dwyieithog yn bwysig ac 81% yn credu bod hyfforddi staff i ddysgu Cymraeg yn bwysig hefyd.""Y cam olaf mewn unrhyw ymgyrch gan Gymdeithas yr Iaith yw troi at weithredu uniongyrchol. Trwy weithredu yn ddi-drais fel hyn, mae Osian yn dilyn enghraifft yr undebau llafar a mudiadau hawliau sifil yng Nghymru a thu hwnt. Mae ei safiad dewr yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Mae'r Llywodraeth wedi colli cyfle euraidd i sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn y sector breifat. Rydym wedi'n siomi gan yr ASau sydd wedi trio gwanhau'r ddeddfwriaeth newydd ar yr iaith Gymraeg. Mae'n amlwg i ni nad ydyn nhw o ddifri am y Gymraeg."Does dim un o'r busnesau y gwnaeth Osian ac eraill eu targedu yn cael eu crybwyll o gwbl yn y Gorchymyn Iaith ac mae hynny, meddai Cymdeithas yr Iaith, yn warthus.Medd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Gogledd:"Yr unig beth 'ryn ni'n gofyn i'r cwmnïau mawr ei wneud yw gadael i'r iaith Gymraeg fyw. Dim ond un neu ddwy siop y gwnes i ac aelodau eraill o Gymdeithas yr Iaith eu targedu - mae'r mwyafrif llethol o'r siopau ar y stryd fawr yn cynnig gwasanaeth arwynebol ar y gorau, gyda rhai arwyddion tocenistaidd yn unig. Dydy hynny ddim digon da, mae angen i'r Llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau hawliau pobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg yn y sector breifat.."Manylion Osian Jones yn y carchar yw:Prison No.DX8265HM Prison Altcourse,Fazakerley,LiverpoolL97 LH.