Mae Radio Ceredigion wedi'i gwerthu i Town and Country Broadcasting gan y Tindle Newspaper Group. Bwriad y cwmni yw cau y stiwdios yn Aberystwyth a Felinfach a symud i Arberth, cartref stiwdios Radio Sir Benfro a Sir Gâr.Dywed Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion:"Mae'n achos pryder mawr i ni fel mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn diffyg darpariaeth Cymraeg 'Radio Sir Gâr' i glywed fod y cwmni wedi prynu Radio Ceredigion. Bu ymgyrchu di-flino gan y Gymdeithas yn erbyn Radio Sir Gar rhai blynyddoedd yn ôl, a oedd yn cynnwys lobio, cynnal protestiadau a ddaeth i ben llanw gyda charchariad Gwenno Teifi yn Chwefror 2006. Ac er gwaethaf hyn mae darpariaeth Gymraeg y cwmni bellach wedi lleihau gyda Rhaglen Gymraeg yr hwyr yn ddwy awr yn hytrach na thair.
Gwnaethpwyd ymchwil gan y Gymdeithas yn 2004 i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yr orsaf a chanfuwyd mai dim ond cyfartaledd o 3% o Gymraeg oedd ar donfeddi'r orsaf yn wythnosol. Dylai'r ddarpariaeth Gymraeg fod yn adlewyrchu realiti ieithyddol y bobl a'r gymuned y maen nhw'n honni eu gwasanaethu. Mae'n ddyletswydd ar y cwmni felly i barhau i ddarlledu 50% o raglenni Radio Ceredigion yn y Gymraeg fel y ddylsant wneud ar Radio Sir Gâr."Mewn ymateb i'r gwyn ynghylch cau stiwdios Aberystwyth a Felinfach dywed Angharad Clwyd:" Mae bwriad y cwmni i gau stiwdios Aberystwyth a Felinfach yn dangos eu hamharch llwyr i Sir Ceredigion, yr amharch a ddangoswyd ganddynt i Sir Gaerfyrddin yn 2004 wrth gymeryd drosodd Radio Sir Gar gan symud y stiwdio i Arberth. Ni fydd yn wasanaeth lleol bellach gan nad yw wedi ei leoli yn y sir, ni fydd y cyflwynwyr yn byw yn y sir ac ni fydd posib i bobl leol alw mewn i'r stiwdio i gyfrannu. Ni fydd yn wasanaeth Gymraeg os yn cydfynd a'u polisi presenol ac ni fydd yn deilwng i wasanaethu'r Sir. Gofynnwn i bobl Ceredigion i gysylltu a'r cwmni ar frys gan wrthwynebu eu cynlluniau i gau'r 2 stiwdio a mynnu fod y cwmni yn parhau i gynnig 50% o'u rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg."Dywed Meleri Mair un o sefydlwyr Gorsaf Radio Ceredigion:"Sefydlwyd Radio Ceredigion ddechrau'r 90au er mwyn creu gwasanaeth dwyieithog a fyddai'n dangos parch tuag at ddwy brif iaith y gynulleidfa. Roeddwn i'n falch iawn i fod yn rhan o'r criw a sefydlodd yr orsaf ac fe ges i'r fraint o gyflwyno rhaglenni fel un o nifer o wirfoddolion a hefyd y pleser o gydweithio gyda?r criw gwreiddiol o bobol ymroddgar a dawnus. Crewyd rhaglenni Cymraeg a Saesneg a oedd yn adlewyrchu'r gymuned a'r ardal, roedd y gwasanaeth yn gwbl berthnasol i gynulleidfa arbennig yr arfordir gorllewinol. Trwy ymdrech a channoedd o oriau di-dâl y gwirfoddolion, llwyddwyd i sefydlu gwasanaeth yr oedden ni gyd yn ymfalchio ynddo, gwasanaeth a oedd yn arloesi a lle'r oedd y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.Mae'n hanfodol i'r orsaf fod yn driw i'w chynulleidfa, ac mae'n holl bwysig felly fod yr orsaf wedi ei leoli yn y sir a fod y perchennog newydd yn parhau i gynnig oleiaf 50% o'u rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn adlewyrchu natur ieithyddol yr ardal."