Caerfyrddin Penfro

Peidiwch â siarad am Bolisiau Iaith – Gweithredwch nhw!

Vernon Morgan Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu gyda Mark James, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi derbyn cwynion gan brifathrawon fod Vernon Morgan, y Cyfarwyddwr Addysg newydd, wedi trin y Gymraeg gyda dirmyg mewn cynhadledd a gynhaliwyd ddoe yng Ngholeg y Drindod ar gyfer prifathrawon i esbonio’r strategaeth a allai arwain at gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg.

Datblygiad newydd yn y frwydr dros ysgolion pentrefol

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Sir Gaerfyrddin, Vernon Morgan wrth ddirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir ddoe, Llun 13eg, y bydd 'Papur Esboniadol' yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd Awst yn gosod allan rhesymau'r Cyngor dros eu Strategaeth Addysg ddadleuol. Bydd croeso i sylwadau'r cyhoedd mewn ymateb i'r papur hwn.

Cyngor Sir Gâr yn cyhoeddi Maes y Gâd!

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Caerfyrddin o “gymhellion gwleidyddol sinicaidd” wrth gyhoeddi amserlen i drafod y bosibiliad o gau degau o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir.

'Moderneiddio' Iaith Sir Gaerfyrddin

cynhadledd_ir_wasg_addysg_caerfyrddin.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith yn datgelu heddiw gynlluniau Cyngor Sir Gaerfyrddin i gyhoeddi ei rhestr du cyntaf o ysgolion pentre i’w cau yn ystod Mehefin. Disgwylid y cyhoeddiad ar ddechrau'r flwyddyn, ond y mae wedi cael ei ddal yn ôl tan yn awr.

Ynadon yn dweud wrth arweinwyr y Gymdeithas 'I aros tu fas!'

radio_carmarthenshire.JPG Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."

Canoli yn achosi seisnigrwydd Gwasanaethau lleol

cyngor_sir_caerfyrddin.JPG Mewn ymateb i adroddiad gan y corff arolygu addysg Estyn a oedd yn datgan nad oedd digon o gyfleoedd yn Sir Gaerfyrddin i bobl ifanc fwynhau gweithgareddau hamdden yn Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar y Cyngor Sir i ddal ar y cyfle i fywiogi ein cymunedau pentrefol Cymraeg.

Llongyfarchiadau Sir Ddinbych

Cadwn Ein Hysgolion.JPG Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddilyn esiampl Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi rhoi heibio am y tro eu cynlluniau i gau llawer o ysgolion pentrefol Cymraeg, ac i ymgynghori yn hytrach gyda'r cymunedau lleol.

Gweithredu uniongyrchol ar strydoedd Rhydaman

Y Byd ar Bedwar Neithiwr, yn nhref Rhydaman, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod arall o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.

Cerdyn Coch i Radio Carmarthenshire

Y Byd ar Bedwar Yn dilyn rhaglen Y Byd ar Bedwar heno ar S4C mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno'n swyddogol gan fod Ofcom wedi penderfynu codi'r garden felen oddi ar Radio Carmarthenshire ym mis Rhagfyr (Pwyswch yma i weld copi o'r Llythr - pdf).

Pwysigrwydd gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg a diogelu Ysgolion Pentref

Vernon Morgan Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu penderfyniad Cyngor Sir Gâr i benodi Cymro Cymraeg (Vernon Morgan) i'r swydd o Gyfarwyddwr Addysg. Gobeithio y bydd yn sylweddoli pwysigrwydd gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd yn sylweddoli pwysigrwydd ysgolion bychan pentrefol i'w cymunedau.