Ynadon yn dweud wrth arweinwyr y Gymdeithas 'I aros tu fas!'

radio_carmarthenshire.JPG Wrth ddedfrydu 5 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ryddhad amodol am 12 mis am greu difrod troseddol yn 'Radio Carmarthenshire' fis Gorffennaf diwethaf, dywedodd Cadeirydd Ynadon Hwlffordd heddiw: "Yr ydym yn edmygu eich ymroddiad i’r iaith ond dylasech fod wedi protestio y tu allan i’r adeilad."

Ymateb Heledd Gwyndaf, is-Gadeirydd y Gymdeithas oedd,"Pe bai Cymdeithas yr Iaith yn aros y tu fâs i sefydliadau sy'n dirmygu'r iaith Gymraeg ni fyddai neb yn cymryd sylw. Rhaid mynd ar neges i mewn atynt."Fe'u cafwyd yn euog o greu difrod gwerth £1700 i eiddo'r cwmni radio, ac oblegyd gofynnwyd i’r 5 diffinydd (Steffan Cravos, Heledd Gwyndaf, Angharad Blythe, Llinos dafydd a Gwenno Teifi) dalu £50 o gostau llys a £150 yr un o iawndal, sef llai na hanner yr hyn y gofynnodd Radio Carmarthenshire amdano.Yn ôl ymchwiliad gan y rhaglen deledu 'Y Byd ar Bedwar' 7% o'r siarad yn unig oedd trwy gyfrwng y Gymraeg a 93% yn Saesneg a 4 cân Gymraeg a glywyd a 260 cân Saesneg mewn diwrnod ar Radio Carmarthenshire.Yn dilyn y rhaglen, fe ddanfonodd y Gymdeithas gwyn swyddogol arall am y sefyllfa at Ofcom. Cred Cymdeithas yr Iaith y dylai Radio lleol adlewyrchu'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu - mae dros 50% o boblogaeth Sir Gâr yn Gymry Cymraeg, dylai Radio Carmarthenshire hefyd felly ddarlledu 50% trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Ofcom wedi ymateb i ddatgan:"yn dilyn pryderon o'r newydd gan nifer owrandawyr dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi penderfynnu monitro ymhellach i weld a ydy'r orsaf yn parhau i gydymffurfio â gofynion ei addewid."Bydd y Gymdeithas yn parhau i ymgyrchu'n galed i sicrhau y bydd radio lleol yn Sir Gâr yn cyrraedd y nôd hwn.Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd