Neithiwr, yn nhref Rhydaman, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod arall o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Dros nos bu aelodau o’r Gymdeithas yn targedu llu o gwmniau preifat megis Woolworths, Peacocks, Argos, New Look, Sweetmans a Boots, gan orchuddio eu ffenestri a sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’ Gwnaed hyn er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r Ddeddf Iaith bresennol yn cyffwrdd â’r sector breifat ac felly bod cwmniau tebyg i’r rhai a dargedwyd, yn rhydd i gynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig. Mae Senedd Cymdeithas yr Iaith yn cymeryd cyfrifoldeb am y weithred.Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:“Cyn y Nadolig bu Cymdeithas yr Iaith yn gweithredu yn gyson yn erbyn cwmniau preifat mewn trefi ar hyd a lled Cymru. Penderfynwyd i ail-gychwyn ar yr ymgyrchu ar ddechrau’r flwyddyn newydd, er mwyn pwysleisio eto yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Dro ar ôl tro, fe welir fod cwmniau a sefydliadau yn parhau i wrthod cynnig y mwyafrif o’u gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gan sathru ar hawliau siaradwyr Cymraeg. Ni fydd hyn yn newid hyd nes ceir Deddf Iaith Newydd.”Y DyfodolBydd Cymdeithas yr Iaith yn parhau i weithredu’n uniongyrchol dros y misoedd nesaf, gan dargedu cwmniau mewn trefi trwy Gymru gyfan, er mwyn pwysleisio gwendidau sylfaenol Deddf Iaith 1993. Eisioes yn ystod y gweithredu a fu cyn y Nadolig, targedwyd llu o gwmniau yn y Fflint, Caernarfon, Caerdydd, Aberystwyth, Bangor ac Aberteifi. Ymhellach, yn Aberystwyth, ar ddydd Sadwrn Mawrth 12, bydd y Gymdeithas yn cynnal Fforwm Genedlaethol a fydd yn amlinellu yr hyn a ddylid ei gynnwys mewn deddfwriaeth newydd.Ychwanegodd Huw Lewis:“Bellach, mae dros ddegawd ers pasio’r Ddeddf Iaith bresennol. O ganlyniad, mae nawr yn adeg briodol i ddechrau ystyried yr angen i ddiwygio a chryfhau’r ddedfwriaeth. Yn wir, o ystyried y modd y mae preifateiddo, ynghyd â’r twf yn nylanwad technoleg, yn trawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu cynnig, mae angen gwneud hyn ar frys. Os na fyddwn yn wynbeu’r her, bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywydau bob dydd.”"Yn benllanw i'r ymgyrch newydd hon, byddwn yn cynnal Fforwm Cenedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd yn Aberystwyth ar Mawrth 12fed i gyflwyno'n gweledigaeth o Ddeddf Iaith Newydd. Ein nod yw darbwyllo Bwrdd yr Iaith i argymell fod y Cynulliad yn mynnu deddf newydd o'r fath gan San Steffan. Y mae Hywel Williams A.S. a Jill Evans A.S.E wedi cytuno i annerch y fforwm, ac mae swyddogion o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ymhlith y rhai a fydd yn mynychu.”Pwyswch ar y lluniau er mwyn gweld fersiwn mwy o faint.